Yng nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith heddiw (dydd Sadwrn, 5 Hydref) yn Neuadd Rhydypennau, Bow Street, ail-etholwyd Joseff Gnagbo yn Gadeirydd y mudiad.
Gan adlewyrchu ar ei flwyddyn gyntaf yn y rôl, a’r ystod o ymgyrchoedd fydd yn parhau fel testun ffocws y Gymdeithas yn ei ail dymor, pwysleisiodd “Rydym wedi adeiladu llawer, ond mae angen adeiladu ymhellach.”
Dywedodd Joseff Gnagbo:
“Pan gymerais yr awenau fel Cadeirydd, roeddwn yn gwybod y byddai’r frwydr dros y Gymraeg yn un heriol. Ond roeddwn yn hyderus yng nghryfder ac ymrwymiad y gymuned hon. Gyda’n gilydd, rydym wedi parhau i ymladd dros hawliau’r Gymraeg, adeiladu ar sylfeini’r rhai a ddaeth o’n blaenau, ac rydym wedi parhau i bwyso am newid.
“Dros y tymor diwethaf, rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen. Rydym wedi dwysau’r frwydr dros Ddeddf Eiddo i amddiffyn ein cymunedau Cymraeg, ac rydym yng nghanol brwydr galed i sicrhau Deddf Addysg Gymraeg i Bawb. Rydym wedi codi llais y gymuned Gymraeg ei hiaith yn gyson, gan bwyso am newid polisi a dal sefydliadau i gyfrif.
“Mae’n anrhydedd cael fy ethol fel Cadeirydd am ail dymor. Bydd fy ffocws ar ehangu cyrhaeddiad ein hymgyrchoedd, cryfhau ein partneriaethau, ac ar sicrhau bod Cymdeithas yr Iaith yn parhau i fod yn rym cryf dros gyfiawnder ieithyddol a chymdeithasol. Rydym wedi adeiladu llawer, ond mae angen adeiladu ymhellach.”
Ymysg y cynigion a basiwyd fel rhan o’r Cyfarfod Cyffredinol, cymeradwywyd ymgyrch o’r newydd dros sicrhau “hawliau llawn i’r Gymraeg”, trwy ddiwygio neu ddisodli Mesur y Gymraeg 2011; ail-bwysleisio galwad y mudiad dros gadoediad ar unwaith i’r rhyfela yn Llain Gasa a Libanus, ac ataliad ar werthiant arfau i Israel; ac ar awdurdodau lleol i fynd ati’n syth i ddefnyddio’u grymoedd ‘erthygl 4’i fynd i’r afael â’r argyfwng tai sy’n wynebu cymunedau Cymru.
Mewn sesiwn gyhoeddus wedi’r Cyfarfod Cyffredinol, trafodwyd argymhellion adroddiad terfynol Comisiwn Cymunedau Cymraeg dan gadeiryddiaeth Seimon Brooks, gyhoeddwyd fis Awst eleni.