Mae ymgyrchwyr wedi codi amheuon am yr asesiad effaith iaith a gomisiynwyd ynghylch yr atomfa niwclear newydd arfaethedig ar Ynys Môn.
Mae'r pryderon yn dilyn y newyddion mai'r cwmni a ddatblygir Wylfa B benderfynodd ar bwy fydd yn gwneud yr astudiaeth, yn hytrach nag awdurdodau cynllunio.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwestiynu'r ffaith bod datblygwyr yr atomfa, Horizon, yn ariannu ei asesiad effaith iaith ei hun, gan ddadlau ei bod yn bygwth annibyniaeth yr ymchwil. Mae'r grwp pwyso hefyd wedi ysgrifennu at y cwmni a gyflogwyd gan y datblygwyr i asesu effaith iaith ei ddatblygiad, CDN Planning, i ofyn pam bod gwefan y cwmni yn uniaith Saesneg.
Fe fydd y mudiad yn cynnal rali ar ddechrau'r flwyddyn newydd yn Llangefni (21ain Ionawr 2012) i dynnu sylw at y pryderon am yr atomfa newydd. Meddai Menna Machreth, llefarydd Gwynedd-Mon, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Os mae'n wir mai datblygwyr sy'n ariannu'r asesiad iaith yma, byddai fe'n gywilyddus. Dylai asesiadau o effaith datblygiadau fel Wylfa B ar yr iaith Gymraeg fod yn gwbl ddiduedd. Mae'n amser i bobl ddeffro a gweld mor andwyol fydd y datblygiad hwn i'r iaith Gymraeg ar Ynys Môn a Gwynedd. Eisoes bu honiadau fod cwmni Horizon yn 'bwlio' ffermwyr yn ardal y datblygiad i werthu'r tir iddynt, a dylem gefnogi teulu Caerdegog sy'n gwrthod gwerthu'r tir maent wedi ei ffermio ers cenedlaethau."'Dyn ni'n ar ddeall bod hyd at dri chwarter o'r swyddi yn gysylltiedig ar unrhyw orsaf niwclear newydd ar yr Ynys yn mynd i fynd i bobl o tu allan i Ogledd Cymru. Bydd datblygiadau tai wrth y miloedd yn dilyn. Pam derbyn yn slafaidd gynlluniau San Steffan am orsaf niwclear pan fedrwn ni ddangos dychymyg a chreu economi werdd ein hunain?"
Fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn iddynt newid y rheolau sy'n caniatáu datblygwyr i gomisiynu a thalu am astudiaethau iaith o'u datblygiadau eu hunain.