Apêl Ariannol - chi eisiau miliwn o siaradwyr Cymraeg?‏‏

Eisiau Miliwn o Siaradwyr Cymraeg? 

Eisiau lle canolog i'r iaith yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016? 

Eisiau addysg Gymraeg i bawb? 

Er mwyn cyrraedd pen y daith, mae angen arian arnom ni. Gofynnaf yn garedig felly i chi gyfrannu'n hael i'n hapêl Glyndwr drwy glicio yma:  

http://cymdeithas.cymru/cyfrannu  

Mae llawer eisoes yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer etholiadau’r Cynulliad sef y tri phrif nod ar gyfer raglen Llywodraeth nesaf Cymru: creu miliwn o siaradwyr, atal yr allfudiad a defnyddio’r Gymraeg ym mhob maes bywyd.  
 

Ond mae ennill ymgyrchoedd yn gallu costio llawer o arian!  

  • Os gallech chi gyfrannu £10gallen ni ysgrifennu at 20 o ymgeiswyr Cynulliad yn eich rhan chi o Gymru  

  • Os gallech chi gyfrannu £100gallen ni gynnal cyfarfod i lobïo gwleidyddion  

  • Os gallech chi gyfrannu £1000 (neu pe bai 10 yn cyfrannu £100 yr un), fedren ni drefnu taith bws yn ystod yr etholiad er mwyn rhannu’n gweledigaeth ledled y wlad 

Diolch eto am eich cefnogaeth.  

Jamie  

Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg