
Eisiau Miliwn o Siaradwyr Cymraeg?
Eisiau lle canolog i'r iaith yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016?
Eisiau addysg Gymraeg i bawb?
Er mwyn cyrraedd pen y daith, mae angen arian arnom ni. Gofynnaf yn garedig felly i chi gyfrannu'n hael i'n hapêl Glyndwr drwy glicio yma:
Ond mae ennill ymgyrchoedd yn gallu costio llawer o arian!
-
Os gallech chi gyfrannu £10, gallen ni ysgrifennu at 20 o ymgeiswyr Cynulliad yn eich rhan chi o Gymru
-
Os gallech chi gyfrannu £100, gallen ni gynnal cyfarfod i lobïo gwleidyddion
-
Os gallech chi gyfrannu £1000 (neu pe bai 10 yn cyfrannu £100 yr un), fedren ni drefnu taith bws yn ystod yr etholiad er mwyn rhannu’n gweledigaeth ledled y wlad
Diolch eto am eich cefnogaeth.
Jamie
Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg