Apêl yn erbyn toriadau i feithrinfeydd Cymraeg yn Wrecsam

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i gyngor Wrecsam beidio â thorri ei arian i feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg.

Mae Mudiad Meithrin yn darparu gwasanaethau addysg Cymraeg i blant blynyddoedd cynnar yn Sir Wrecsam ac mae'r Cyngor am dorri £23,000 o'i gyfraniad iddo. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg gan ofyn am ei barn ynghylch y posibilrwydd y gallai anfon plant i feithrin cyfrwng Cymraeg fod yn fwy costus na darpariaeth Saesneg.

Meddai Aled Powell, Cadeirydd Rhanbarth Clwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Byddai'r toriadau hyn yn effeithio'n ddifrifol ar gyfleoedd plant i ddod i allu siarad Cymraeg, yn enwedig rhain sy'n dod o gefndiroedd llai cyfoethog. Mae'n hanfodol bwysig bod pob un plentyn yn y sir yn cael y gallu i fwynhau a chyfathrebu yn Gymraeg o'r blynyddoedd cynnar os ydyn ni am adeiladu cymdeithas lle mae iaith unigryw Cymru yn ffynnu. Byddai'r toriadau hyn yn dolc sylweddol i rieni sydd am i blant dderbyn ei haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae torri'r gyllideb yma yn gwahaniaethu rhwng y ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg trwy drin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol. Toriad sydd, o bosib, yn groes i Fesur y Gymraeg 2011, ac felly rydyn ni wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg gan ofyn iddi ymyrryd."