Apelio ar aelodau hŷn y Gymdeithas

ffred_cefnogaeth_hael.jpgMae Ffred Ffransis wedi galw ar Eisteddfotwyr canol oed i roi cefnogaeth ariannol hael i Gymdeithas yr Iaith. Fe wnaeth ei sylwadau wrth gyhoeddi pamffled newydd ar Faes yr Eisteddfod.

Ffred Ffransis yw aelod hynaf senedd y Gymdeithas a galwodd ar y canol oed i roi cefnogaeth ariannol er mwyn helpu'r to ifanc i weithredu chwyldro newydd i ddiogelu'r iaith yn y ganrif newydd.Yn y pamffled Chwyldro Parhaus mae Ffred Ffransis yn dadlau fod enillion "chwyldro cyntaf" chwedegau a saithdegau'r ugeinfed ganrif yn prysur ddiflannu.Dywedodd mai "ffordd yw brwydr yr iaith a bod angen cam mawr ymlaen erbyn hyn.Ond dywedodd fod yn rhaid i'r arweiniad ddod gan y to ifanc sydd yn dal llawer o'r prif swyddi o fewn y Gymdeithas."Cyfrifoldeb y canol oed yw hyrwyddo'r ffordd ar gyfer y genhedlaeth newydd" meddai."Yn wahanol i sefydliadau eraill yng Nghymru, nid yw Cymdeithas yr Iaith yn derbyn grant tuag at ei waith."Pobol Cymru sy'n rhoi ein grant i ni a heb hynny ni all y chwyldro newydd ddigwydd" ychwanegodd.Bydd yr arian a fydd yn cael ei godi yn cael ei ddefnyddio i gyllido Swyddog Maes a fydd yn gweithio yn bennaf ymhlith Cymry ifainc mewn ysgolion, colegau ac yn eu cymunedau.Stori BBC Cymru'r Byd