
Rydyn ni'n croesawu'r penderfyniad i roi enwau uniaith Gymraeg i bob etholaeth ar gyfer etholiadau Senedd 2026.
Mae’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth wedi cyhoeddi penderfyniadau terfynol ar gyfer ffiniau ac enwau etholaethau etholiad 2026.
Dywedodd cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith, Joseff Gnagbo:
“Rydyn ni'n falch y bydd gan bob etholaeth ar gyfer etholiadau Senedd 2026 enw uniaith Gymraeg. Y Gymraeg yw priod iaith Cymru, ac mae rhoi enwau Cymraeg ar etholaethau ar draws Cymru yn ffordd o normaleiddio'r Gymraeg, iaith sy’n perthyn i holl ddinasyddion ein gwlad. Mae'n gosod cynsail pwysig ar gyfer enwau etholaethau yn y dyfodol ac ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn unig mewn cyd-destunau eraill hefyd."
Mae'r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau wedi ymgynghori ddwywaith ar gynigion, a beirniadodd Cymdeithas yr Iaith gynigion i roi enwau dwyieithog ar etholaethau fel Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd – Merthyr Tydfil, Aberdare and Pontypridd.
Ychwanegodd Joseff Gnagbo:
"Mae cyhoeddiad heddiw yn dangos pwysigrwydd ymgyrchu. Diolch i bwysau gan ymgyrchwyr, bydd enw pob etholaeth yn Gymraeg yn unig, a gweithdrefn y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau wedi ei haddasu fel bod enwau Cymraeg yn cael eu llunio ar gyfer pob etholaeth yn y lle cyntaf, cyn ystyried a oes angen enw Saesneg hefyd. Rydyn ni’n galw ar y Senedd i ddilyn yr esiampl a rhoi enw uniaith Gymraeg i’n Senedd genedlaethol yn swyddogol.
“Bydd etholiad 2026 yn gychwyn ar gyfnod newydd yn hanes datganoli gyda Senedd fwy o faint. Rydyn ni’n gwybod bod defnydd o’r Gymraeg yn ein Senedd genedlaethol yn isel ar hyn o bryd, a byddwn yn ymgyrchu dros y cyfnod nesaf i sicrhau bod statws uwch a defnydd uwch o’r Gymraeg yn y Siambr a’r tu hwnt pan gaiff y Senedd newydd ei hethol.”