Arbenigwyr y Llywodraeth yn galw am Ddeddf Addysg Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu argymhelliad bwrdd o arbenigwyr y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg.

Mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r system o gynllunio addysg Gymraeg, dywed panel o arbenigwyr, sy’n gynnwys yr Athro Dylan Foster Evans a Meirion Prys Jones:

"Mae’r Bwrdd o’r farn fod angen ystyried cyflwyno deddfwriaeth newydd a fyddai’n diwygio ac yn disodli Deddf Rheoliadau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 sy’n cynnwys gosod y dyletswydd ar awdurdodau lleol i baratoi [Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg]. Mae’n gwbl briodol i’r Llywodraeth gytuno rhai newidiadau i’r Is-ddeddfwriaeth bresennol wrth wynebu’r her a osodir gan y ddogfen bolisi Cymraeg 2050 ond barn y Bwrdd yw bod angen ystyried yn ofalus sut mae cryfhau’n sylweddoly broses o gynllunio ieithyddol ac addysgol a fydd yn sicrhau fod canran llawer uwch o ddisgyblion yn cael y cyfle i allu siarad Cymraeg dros y degawdau nesaf hyn.”

"Mae’r strwythurau o ran darparu, gwella a monitro addysg yng Nghymru wedi newid ers i’r cysyniad o Gynlluniau Addysg Gymraeg gael ei gyflwyno ac ers cytuno ar y ddeddfwriaeth i gefnogi’r drefn honno. ... Felly, er mwyn sicrhau gwell darpariaeth o ran cynllunio a darparu ar gyfer addysg Gymraeg a dysgu’r Gymraeg yn fwy effeithiol yn gyffredinol, bydd angen creu deddfwriaeth fwy pwrpasol ac effeithiol er mwyn delio â’r holl ddatblygiadau hyn gan greu trefn a fydd yn fwy cynhwysol ac uchelgeisiol na’r un bresennol."

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Mae hyn yn newyddion calonogol iawn. Mae’r adroddiad yn cadarnhau llawer o’r hyn rydyn ni wedi bod yn ei ddweud. Mae’r arbenigwyr yn hollol glir bod angen Deddf Addysg Gymraeg er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr.

"Mae cyrraedd y miliwn erbyn 2050 yn hollol realistig a chyraeddadwy, ond er mwyn cyrraedd y nod, mae'n hanfodol bod y system addysg yn cyflawni twf cyson a sylweddol yng nghanran y rhai sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg. Yn hynny o beth, mae angen Deddf Addysg Gymraeg yn ogystal â newidiadau pellgyrhaeddol er mwyn recriwtio, hyfforddi a chadw athrawon sy'n dysgu drwy'r iaith."

Mae cynllun y Gymdeithas ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg yn cynnwys cynnig i ddisodli cynlluniau addysg Gymraeg presennol y cynghorau sir gyda thargedau lleol di-droi'n-ôl, gyda’r nod, dros amser, mai'r Gymraeg fyddai'r norm fel cyfrwng addysgu ar bob lefel o addysg.