Arddangos gwaith celf cadwyn bapur wrth y Senedd cyn pleidlais ar gynlluniau addysg Gymraeg
14/01/2025 - 12:59
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi arddangos cadwyn bapur ar ffurf plant ar risiau’r Senedd er mwyn galw am addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn cyn pleidlais ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg Gymraeg. Comisiynwyd yr arlunydd Osian Grifford i lunio'r gwaith er mwyn pwysleisio bod y gyfundrefn addysg yn amddifadu 80% o blant o'r Gymraeg ar hyn o bryd, ac i bwyso am newid er mwyn rhoi'r Gymraeg i bawb yn y dyfodol.