Mae mwyafrif pobl Cymru yn credu y dylai pob plentyn adael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn hyderus ac mae cyfran sylweddol yn cefnogi troi pob ysgol yn un Cymraeg erbyn 2050, yn ôl canlyniadau arolwg barn newydd.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, a gomisiynodd yr arolwg, mae'r canlyniadau'n dangos bod angen i'r Llywodraeth fod yn fwy “blaengar” gyda’r cynlluniau ar gyfer addysg Gymraeg yn eu deddfwriaeth arfaethedig, Bil y Gymraeg ac Addysg.
Roedd 59% o bobl a holwyd mewn arolwg gan Yougov yn credu y dylai ysgolion anelu i addysgu pob disgybl i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, gyda 29% yn anghytuno a 12% yn ateb ‘ddim yn gwybod’. O hepgor y rhai atebodd ‘ddim yn gwybod’, roedd y ganran o blaid yn codi i 67%.
Yn yr un arolwg, dywedodd 39% o bobl eu bod yn cefnogi’r egwyddor y dylai pob ysgol yng Nghymru symud at addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050, gyda 47% yn gwrthwynebu a 14% ddim yn gwybod. O hepgor y rheiny atebodd ‘ddim yn gwybod’, roedd y ffigur a oedd yn gefnogol yn codi i 45%.
Roedd y gefnogaeth ar gyfer addysg Gymraeg ar ei huchaf ymhlith y grŵp oedran 16-24 oed. Yn y grŵp oedran hwn, roedd 74% yn credu y dylai pob plentyn adael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn hyderus ac roedd 55% yn cefnogi trosi pob ysgol yn un Cymraeg erbyn 2050. O hepgor y rhai atebodd ‘ddim yn gwybod’, mae'r ffigurau’n codi i 80% a 60% yn ôl eu trefn.
Wrth ymateb i ganlyniadau’r arolwg, dywedodd Toni Schiavone, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Rydyn ni’n credu y dylai pob plentyn yng Nghymru gael yr hawl i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus trwy’r system addysg, ac mae’n amlwg o’r canlyniadau yma bod mwyafrif pobl Cymru’n cytuno gyda ni ar hyn. Mae’r canlyniadau yma hefyd yn dangos bod ein polisi o addysg Gymraeg i bawb bellach yn un prif ffrwd.
“Ar hyn o bryd, mae tua 80% o’n plant yn gadael yr ysgol heb allu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn eu bywyd bob dydd, rhywbeth sy’n eu hallgáu o gymaint o gyfleoedd yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn y gweithle.
“Mae’n drawiadol bod bron yn union yr un ganran o bobl 16-24 oed eisiau i bawb adael yr ysgol yn siaradwyr Cymraeg. Bydd llawer o’r bobl ifanc yma wedi gadael yr ysgol yn y blynyddoedd diwethaf wedi cael deuddeg mlynedd o wersi Cymraeg yn eu haddysg statudol ond yn methu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus ac yn teimlo bod y system wedi eu methu.”
Mae beirniadaeth Cymdeithas yr Iaith o Fil y Gymraeg ac Addysg y Llywodraeth yn seiliedig ar ddiffyg targedau statudol ar gyfer y canran o blant sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg, cyfran isel o ddysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf, a diffyg ymrwymiadau cyllido i uwch-sgilio gallu Cymraeg y gweithlu.
Ychwanegodd Toni Schiavone:
“Mae gan Lywodraeth Cymru y grym i newid y drefn, a gwireddu dyheadau pobl Cymru, er mwyn rhoi’r Gymraeg i bob plentyn.
“Rydyn ni'n galw ar Mark Drakeford, y gweinidog sy'n gyfrifol am y ddeddfwriaeth yma, i feddwl o ddifri am farn ein pobl ifanc ni sydd wedi cael eu gadael i lawr gan y system bresennol, ac i wneud diwygiadau blaengar i'r Bil fydd yn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o bobl ifanc yn gadael yr ysgol yn hyderus eu Cymraeg.”
Atodiad | Maint |
---|---|
Yougov CYI Cymraeg.png | 280.33 KB |