Arweinydd Cyngor Abertawe yn cefnogi datganoli darlledu

Peter Black - datganiad.jpgArwyddodd yr Aelod Cynulliad Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol heddiw ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros y cyfryngau yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i godi llais ar y mater.

Dywedodd Peter Black AC dros y De Orllewin:"Cred y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bod darlledu Cymreig wedi dioddef oherwydd diffyg archwiliad digonol. Credwn bod rôl i'r Cynulliad Genedlaethol a'r Llywodraeth Cymreig i reoleiddio a mynnu i'r darlledwyr rhoi cyfrif o'r ffordd maent yn gweithredu. Dyna pam rydym yn cefnogi datganoli pwerau ychwanegol o San Steffan er mwyn hwyluso'r gwaith."Meddai Chris Holley Arweinydd Cyngor Abertawe sydd hefyd yn cefnogi'r galwadau:"Dwi'n cefnogi'r syniad y dyla pobol Cymru cael mwy o fewnbwn mewn i benderfyniadau sy'n effeithio ar gwasanaethau teledu a radio yng Nghymru."