Mae rhai archfarchnadoedd mawr yn gwrthod darparu rhagor o arwyddion Cymraeg oherwydd y bydden nhw'n anodd i gwsmeriaid eu deall, dyna un o gasgliadau ymchwil a gyhoeddwyd heddiw (2pm, Dydd Mercher, 5ed Awst) gan fudiad iaith.
Ymysg rhai o brif gasgliadau'r ymchwil o ddarpariaethau 11 o archfarchnadoedd, sy'n seiliedig yn bennaf ar ymatebion y cwmnïau i holiadur Cymdeithas yr Iaith a gohebiaeth arall, mae Sainsbury's a Morrisons yn honni bod arwyddion Cymraeg yn gallu bod yn anodd i ddeall a ddim yn glir.
Yn eu hymateb i lythyr gan y mudiad iaith, datganodd Morrisons y byddai cael gormod o arwyddion yn drysu cwsmeriaid: “Mae cost sylweddol ynghlwm wrth ail-osod yr holl arwyddion tu fewn i’n siopau. Yn nifer o’r ardaloedd mae hefyd angen ystyried faint o le sydd – a gall ychwanegu ail iaith ei wneud yn anodd i gwsmeriaid ddeall yr arwydd” . Mae Sainsbury's yn esbonio bod rhai arwyddion yn uniaith Saesneg oherwydd "...mae angen i ni sicrhau eu bod yn glir i’n holl gwsmeriaid a’n cydweithwyr. Oherwydd hyn, mae pob arwydd ynglŷn ag iechyd a diogelwch a thaliadau yn uniaith Saesneg”
Mae Sainsbury's a Waitrose hefyd yn gwrthod cynnig peiriannau hunanwasanaeth Cymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod canlyniadau'r ymchwil yn dangos bod angen cynnwys yr archfarchnadoedd o dan ddeddfwriaeth iaith. Yn siarad yn y lansiad, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae nifer o'r ymatebion rydyn ni wedi eu derbyn gan yr archfarchnadoedd yn frawychus i ddweud y lleiaf. Maen nhw'n dangos diffyg dealltwriaeth ddifrifol o anghenion yr iaith, a hynny er gwaethaf nifer o helyntion diweddar a gafodd sylw ar draws Ewrop. Mae'r syniad bod arwyddion dwyieithog yn mynd i ddrysu cwsmeriaid yn debyg i'r hyn roedd rhai yn dweud yn y 1960au a'r 1970au am arwyddion ffyrdd. Yr unig ffordd i fynd i'r afael â hyn yn iawn yw drwy ddeddfwriaeth."
"Mae'r weledigaeth rydyn ni wedi ei chyhoeddi ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn galw ar i'r Llywodraeth nesaf greu miliwn o siaradwyr Cymraeg a hefyd i bobl allu defnyddio'r Gymraeg ym mhob maes bywyd. Mae'n hymchwil hefyd yn dangos nad oes gan y cwmnïau polisïau cyflogaeth sy'n creu gweithleoedd gwirioneddol Cymraeg. Os yw'r iaith i ffynnu, mae angen rhagor o ofodau lle mae'r Gymraeg yw'r prif gyfrwng cyfathrebu a dyw'r archfarchnadoedd ddim yn cyfrannu at yr agenda yna ar hyn o bryd."