7yh, nos Iau, 13 Mehefin
Canolfan Glyndŵr, Machynlleth
Bydd rali Nid yw Cymru ar Werth Machynlleth yn cael ei chynnal ar 14 Medi, ac yn gyfle i ymateb i gyhoeddi Papur Gwyn y Llywodraeth ar dai a chyhoeddi adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Mae'r gwaith o drefnu wedi dechrau! Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu gyda'r gwaith, dewch draw i Ganolfan Glyndŵr! Gallwch helpu mewn pob math o ffyrdd - dewch draw i ddarganfod sut.