Angen manteisio ar "gyfle euraidd" i ehangu addysg Gymraeg yng ngogledd Powys

Bydd cyfarfod agored heno yng Nganolfan Cymunedol Glantwymyn sydd wedi’i drefnu gan Gymdeithas yr Iaith yn galw ar Gyngor Sir Powys i beidio â cholli “cyfle euraidd” i dyfu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg y sir. 

Ddoe, trafododd Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau gynlluniau i ad-drefnu ysgolion yn ardal Llanfair Caereinion, Llanfyllin a’r Trallwng, a fydd yn dod gerbron cyfarfod Cabinet wythnos nesaf.

Dywedodd Toni Schiavone, Is-gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith: 

"Mae'n amserol bod y cyfarfod agored yn cael ei gynnal wrth i Gyngor Powys gyhoeddi cynlluniau i adolygu trefn ysgolion y sir. Er ein bod yn croesawu’r bwriad i ddechrau symud ysgol Bro Caereinion ar hyd y continiwwm at fod yn ysgol Cymraeg, mae’n bryder mai prin yw’r sôn yn ehangach am gynyddu darpariaeth Gymraeg. 

“Rhaid manteisio ar y cyfle euraidd yma rhag i hawliau plant y sir i dderbyn addysg Gymraeg - a’r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil - gael eu hamddifadu.”

Bydd cyfarfod cyhoeddus “Dyfodol Addysg Gymraeg ym Maldwyn” heno yn trafod potensial yr ad-drefniant, ac yn galw ar Gyngor Powys i ymrwymo i symud ei holl ysgolion ar hyd y continiwwm iaith, yn ogystal â chynyddu darpariaeth ysgolion meithrin Cymraeg a chanolfannau trochi iaith y sir.

Bydd Pete Roberts, yr aelod cabinet gyda chyfrifoldeb dros addysg, yn y cyfarfod i glywed y neges ac i siarad ar ran y cyngor.

Powys yw sir frodorol Tegwen Bruce-Deans, Prifardd Eisteddfod yr Urdd Tregaron eleni. Mynegodd hithau ei dyhead am ehangu addysg Gymraeg wrth edrych ymlaen i fynychu’r cyfarfod nos Iau: 

“Dw i wedi profi cymaint mae addysg cyfrwng Cymraeg yn gallu cyfoethogi bywyd rhywun, ac mae'n siom enfawr ac yn anghyfiawn nad oes gan mwy o blant ym Mhowys y fraint werthfawr honno yr oeddwn i'n ffodus o'i chael.

"Er cael fy magu mewn ardal weddol di-Gymraeg, ges i'r fraint o dderbyn rhan helaeth o fy addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ac wedi derbyn cyfleoedd di-ben-draw o ganlyniad; nid yn unig cyfleoedd addysg bellach a gyrfaol, ond profiadau o deithio, cymdeithasu a throchi o fewn ein diwylliant cyfoethog ni.”

Mae’r cyfarfod agored yn rhan o ymgyrch ehangach Cymdeithas yr Iaith i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn pasio Deddf Addysg Gymraeg i Bawb yn nhymor y Senedd hwn, fyddai’n gosod nod statudol bod pob plentyn yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.