Dyddiad: Dydd Gwener, 30 Mehefin 2017, 11 yb – 4.00 yp
Trefnir y diwrnod gan Gymdeithas yr Iaith gyda’r bwriad o dynnu pobl ynghyd er mwyn datblygu cynllun ymarferol i gymhathu dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn eu cymunedau.
Set byw a sgwrs anffurfiol gyda'r canwr a'r ymgyrchydd Jamie Bevan.
Bydd cyfarfod BYR ar ddechrau'r noson i ddewis cynrychiolwyr y Gymdeithas yn y rhanbarth - a digon o gyfle i drafod y camau nesaf wrth herio Cyngor Sir Powys ar faterion addysg, cynllunio a mwy.