Asesiad effaith iaith cyllideb yn anwybyddu hanner ohoni

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad o effaith iaith y gyllideb nesaf gan anwybyddu dros hanner ei gwariant, yn ôl gwybodaeth a ryddhawyd i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Ym mis Chwefror 2013, addawodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth y mudiad iaith y byddai’n cyhoeddi asesiad o effaith iaith holl wariant Llywodraeth Cymru. Deunaw mis yn ddiweddarach, nid oes asesiad wedi ei gyhoeddi. Ond mewn cyfarwyddiadau i swyddogion sy’n paratoi’r asesiad, datgelwyd y bydd cyllidebau addysg ac iechyd yn cael eu heithrio o’r broses - tua £8 biliwn o wariant allan o gyllideb o tua £15 biliwn. Dywed y ddogfen swyddogol, sy’n uniaith Saesneg: "At ddibenion dadansoddiad cyllidebol y flwyddyn gyntaf ni fyddwn yn ceisio casglu data ar gyfer cyllidebau mawrion ym maes Iechyd, Addysg ac Awdurdodau Lleol sydd wedi eu dirprwyo i sefydliadau allanol. Rydym yn cydnabod eu bod yn feysydd gwariant o bwys, fodd bynnag ar gyfer y flwyddyn gyntaf, rydym yn tynnu cwmpas mwy cyfyngedig ar gyfer dadansoddiad y rhaglenni gwariant hynny..."

Ym mis Ebrill y llynedd, datgelodd Cymdeithas yr Iaith fanylion cais rhyddid gwybodaeth a ddangosodd fod y swm oedd wedi ei wario ar addysg cyfrwng Cymraeg i oedolion yn y gymuned - allan o gyllideb o bron i £17 miliwn - yn llai na phedair mil o bunnau, sef 0.02% o’r gyllideb. Yn ei strategaeth iaith a gafodd ei gyhoeddi’r llynedd, mae’r Llywodraeth yn addo “prif ffrydio'r iaith o fewn [ei] holl waith...”. Dros gyfnod o dair blynedd, allan o 90,477 prentisiaeth a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, dim ond 354 oedd trwy gyfrwng y Gymraeg, neu lai na phedwar ym mhob mil o brentisiaethau.  Dros yr un cyfnod, 0.3% yn unig, neu £3 am bob £1000, o wariant ar Ddysgu Seiliedig ar Waith a ariannodd hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae bron yn amhosib credu hyn. Sut all y Llywodraeth asesu effaith iaith eu holl wariant heb ystyried y gyllideb addysg na’r gyllideb iechyd - sef cig a sylwedd eu gwariant? Mae'n lol llwyr. Mae'r Prif Weinidog wedi addo cyhoeddi asesiad ers deunaw mis, ond dyw e dal heb ei gyhoeddi. Beth sy’n bod arnyn nhw?”

“Mae’r gwasanaeth addysg yn hynod o bwysig er mwyn cyrraedd ein nod o weld Cymru wirioneddol Gymraeg; gwlad lle mae pawb yn cael byw yn Gymraeg. Y llynedd, wnaethon ni ddarganfod bod 99.98% o gyllideb addysg i oedolion yn y gymuned yn cael ei wario ar gyrsiau cyfrwng Saesneg. Mae angen taclo’r anhegwch hwnnw ar fyrder. Ar yr un pryd, mae'r Prif Weinidog yn gwneud toriadau byrbwyll ac annheg i gyllideb Cymraeg i Oedolion. Pam? Achos dyw’r Llywodraeth ddim wedi ystyried y cyfraniad gallai Cymraeg i Oedolion ei wneud i faterion fel hyfforddi’r gweithlu’n ehangach. ‘Sdim strategaeth ganddyn nhw.

“Yn yr un ffordd, rydyn ni’n gwybod bod llawer o broblemau o fewn y gwasanaeth iechyd, yn enwedig mewn meysydd fel gofal i’r henoed a phlant. Mae wir angen asesu beth yw effaith iaith y gwariant yn y meysydd hyn, dylai fod yn rhan greiddiol o gynllunio’r gweithlu.

“Mae’n debyg nad oes gwir awydd gan y Prif Weinidog i sichrau tegwch ariannol i’r Gymraeg, dim awydd i newid y patrymau gwariant. Er mwyn gwneud hynny, byddai angen cyhoeddi asesiad dealladwy sy’n tynnu sylw at yr annhegwch amlwg presennol.”

Wrth gyfeirio at y ffaith bod y dogfennau wedi cael eu hanfon ato’n uniaith Saesneg, ychwanegodd Mr Farrar sy'n byw ger Machynlleth: “Dogfennau am asesiadau effaith iaith yn cael eu sgwennu yn Saesneg? Fedrech chi ddim gwneud o i fyny. Mae’n adrodd cyfrolau. Mae’n eironi mawr: mae’n debyg y byddai Uned Gymraeg y Llywodraeth yn methu ei hasesiad ei hun.”