Beirniadu hysbyseb swydd Cyngor Sir Benfro

Mewn llythyr at swyddogion Cyngor Sir Benfro mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu hysbyseb swydd oedd ar un o wefannau'r Cyngor gan ei fod yn ffeithiol anghywir ac yn sarhad ar y Gymraeg a phobl Sir Benfro. Fe ddaeth aelodau o Gymdeithas yr Iaith ar draws yr hysbyseb, pan yn archwilio gwefannau Cyngor Sir Benfro i weld faint o'r tudalennau oedd yn Gymraeg. Roedd y wefan dan sylw yn uniaith Saesneg, ond ar ôl pwyso ar y dudalen 'Welsh language' cafodd yr aelodau eu rhyfeddu o weld y cynnwys.
 
Roedd yr hysbyseb yn dweud fod y Gymraeg ond yn iaith gyntaf mewn rhannau o ogledd Penfro yn unig ac yn cynnig fod modd i weithwyr ddysgu rhai brawddegau Cymraeg fel mater o gwrteisi.
 
Dywedodd aelod lleol o'r Gymdeithas yn Sir Benfro, Gwyndaf Tomos:
 
"Mae'n warthus bod y Cyngor wedi dweud y fath beth. Ydi'r Cyngor yn awgrymu nad oes angen i blant yn ne y Sir gael gofal a chefnogaeth yn Gymraeg? Nid iaith ar gyfer rhannau o'r gogledd yw'r Gymraeg - ond iaith ar gyfer yr holl sir. Yn siaradwyr rhugl, dysgwyr a phobl sydd yn dymuno gallu byw drwy'r Gymraeg."
 
"Sut gallwn ni gymeryd y Cyngor o ddifrif yn unrhyw beth os dyma yw eu hagwedd tuag at y Gymraeg? Mae'n rhoi'r argraff fod y Cyngor yn ystyried y Gymraeg yn ddim mwy na mater o gwrteisi sydd yn haeddu cydnabyddiaeth ambell i frawddeg.”
 
"Rydyn ni'n galw ar y Cyngor Sir i dynnu'r hysbyseb yma yn ôl yn syth ac i ail hysbysebu'r swydd gan ofyn bod y Gymraeg yn hanfodol - ac yn mynnu fod Arweinydd y Cyngor a llefarydd y Cabinet ar y Gymraeg yn cyfiawnhau fod y fath hysbyseb wedi cael eu caniatâd yn y lle cyntaf."
 
Ychwanegodd Bethan Williams, Swyddog Maes y Gymdeithas yn yr ardal:
 
“Wrth i ni lunio Siarter iaith ar gyfer y sir un o'n galwadau ar y Cyngor i'w weithredu yn syth yw bod swyddi newydd ble mae aelod o staff ymwneud a'r cyhoedd, yn nodi fod y Gymraeg yn hanfodol. Mae cyfle yma i'r Cyngor ddangos eu bod nhw'n cymeryd y Gymraeg o ddifrif, drwy dynnu'r hysbyseb yn ôl a gofyn bod y Gymraeg yn hanfodol."
 
“Dylai strategaeth Llywodraeth Cymru, “Mwy na Geiriau” fod y cynnig arweiniad yn hynny o beth, a datgan yn glir bod gwasanaethau gofal yn Gymraeg yn hanfodol i sicrhau gwasanaeth o ansawdd da.”
 
 
Beth am ddanfon llythyr at Gyngor Sir Benfro i alw ar y Cyngor Sir i dynnu'r hysbyseb yn ôl a gwneud y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd? Pwysa yma i ddanfon neges atyn nhw.