Beirniadu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Domisiwn Cydraddoldeb a Hawliau DynolMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru i gwyno ei fod wedi methu yn un o'i gyfrifoldebau cyntaf sef i roi cydraddoldeb i'r iaith Gymraeg.

Mae Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr iaith Gymraeg wedi ysgrifennu y llythyr isod at y corff hwn yng Nghaerdydd:

Yr wyf newydd ymweld a gwefan newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a chael nad oes lle i'r Gymraeg arni. Yr hyn a gawn yn hytrach yw ymddiheuriad nad yw'r adran Gymraeg o'r wefan yn barod eto.

Tra bod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dymuno pob llwyddiant i'r Comisiwn newydd mae'n rhaid i ni fynegi ein siom eich bod fel corff, o'r dechrau, yn dymuno trin y Gymraeg fel iaith eilradd i'r Saesneg. Nid dyma'r math o arweiniad y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan gorff sy'n sefyll dros gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Mawr obeithiwn y bydd y cam hwn â siaradwyr y Gymraeg yn cael ei gywiroyn fuan ac yn y cyfamser hoffem wybod gennych pa drefniadau eraill sydd gennych o ran:

* cyflogi staff sy'n gallu siarad Cymraeg, ac yn gallu delio â'r cyhoedd yn y Gymraeg a'r Saesneg

* sicrhau, nid yn unig y bydd eich gwefan yn ddwyieithog ond y bydd eich cyhoeddiadau, eich dogfennau a'ch cyhoeddusrwydd ar gael yn y Gymraeg hefyd.

Ni fyddem yn disgwyl dim llai na chydraddoldeb llawn i'r Gymraeg gan Gomisiwn sy'n gweithio'n benodol dros gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Edrychaf ymlaen at glywed oddi wrthych, a chredaf fod yna le i ni gyfarfod i drafod y materion hyn ymhellach.

Gan ddymuno pob llwyddiant i chi yn eich gwaith.