Mewn cyfarfod cudd rhwng gweision sifil a'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, darparodd gweision sifil gyngor i'r Ombwdsmon am sut orau i lunio cynnig i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl cofnodion a gafodd eu rhyddhau i'r Aelod Cynulliad Adam Price mewn ateb i gwestiwn yn y Senedd.
Yn y cofnodion o gyfarfod preifat ym mis Medi eleni rhwng yr Ombwdsmon a rhai o brif weision sifil Is-Adran y Gymraeg Llywodraeth Cymru, mae'r ddau gorff yn trafod effaith cynnig yr Ombwdsmon i wneud gwaith Comisiynydd y Gymraeg. Yn y cyfarfod, mae'r prif was sifil sy'n gyfrifol am y papur gwyn sy'n cynnig diddymu'r Comisiynydd yn rhoi cyngor manwl i Nick Bennett ynghylch sut i ddelio â gwrthwynebiad posibl i'r syniad. Gorffennwyd y cyfarfod gyda’r Ombwdsmon yn cytuno i ymateb i’r ymgynghoriad ar Fil y Gymraeg.
Mewn cyfweliad diweddar gyda rhaglen Sharp End ar ITV, mynnodd Alun Davies AC – cyn-Weinidog y Gymraeg a chyn-bartner busnes yr Ombwdsmon Nick Bennett – nad ei syniad e oedd rhoi pwerau'r Comisiynydd i swydd Mr Bennett. Ym mis Hydref, dywedodd wrth y Cynulliad: "Mae’r ombwdsmon yn cynnig y gall ei swyddfa fe ddelio â chwynion ac ymchwiliadau sy’n ymwneud â safonau fel rhan o’i ddyletswyddau craidd ... rydw i’n credu bod y cynnig hwn yn un diddorol."
Mewn ymateb, dywedodd Heledd Gwyndaf:
"Mae'n amlwg o'r newyddion yma bod cynllwyn rhwng Llywodraeth Cymru a Nick Bennett i gael gwared ar Gomisiynydd y Gymraeg. Mae'n glir bod trafodaethau manwl wedi bod rhwng gweision sifil a'r Ombwdsmon am y mater, ac nid yn unig yn y cyfarfod yma yn ôl pob golwg – i allu cynnig cyngor mor fanwl, mae'n rhaid bod y gweision sifil wedi bod yn ystyried ei gynnig ymlaen llaw. Mae'n ymddygiad cwbl amhriodol.
"Gwta fis wedi iddyn nhw gyhoeddi papur gwyn, mae'n amlwg bod y gweision sifil wedi sylwi bod ymateb y cyhoedd i'r papur gwyn mor negyddol fel eu bod nhw'n chwilota o gwmpas am syniadau eraill er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu diddymu'r Comisiynydd. Mae'n amhriodol eu bod nhw'n gwneud hynny, ac, fel mater o bolisi cyhoeddus mae'n gam annoeth tu hwnt. Mae arbenigwyr iaith wedi bod yn glir nad yw'n gwneud synnwyr diddymu'r Comisiynydd bum mlynedd yn unig ar ôl ei sefydlu."
Ychwanegodd:
"Mae'r cofnodion yma, sy'n uniaith Saesneg, yn gwneud safbwynt yr Ombwdsmon yn hollol glir – "the more important task of promoting the language" - felly mae hyrwyddo yn bwysicach iddo na hawliau iaith pobl Cymru. Pam mae e'n trio dwyn y cyfrifoldeb am gwynion iddo'i hunan os nad yw e'n gweld pwysigrwydd y gwaith? Wrth gwrs bod angen hyrwyddo'r Gymraeg – ond mae angen corff hyrwyddo ar wahân i wneud hynny. Mae rheoleiddio cadarn yn hanfodol i les y Gymraeg, a rhaid cadw Comisiynydd i fod yn gyfrifol am hynny."
"Cyfeirir yn y cofnodion at fod yr Ombwdsmon eisoes wedi delio â chwynion ar faterion ieithyddol 'notably in relation to community councils'. Cyfeiriad yw hyn at pan ddeliodd yr Ombwdsmon â Cyngor Cymuned Cynwyd, ac roedd ei ymyrraeth yn yr achos hwnnw yn hynod niweidiol i’r iaith."
“Mae’r cofnodion hefyd yn cyfeirio at werth am arian – mae gwerth am arian yn digwydd pan fo rhywbeth wedi bod yn effeithiol a llwyddiannus. Yn sicr fyddai dim gwerth am arian i'r cyhoedd o gael yr Ombwdsmon yn gyfrifol am gwynion am y Gymraeg, ac ni fyddai unrhyw ffydd ganddon ni ynddo fe."