Mewn ymateb i ddatganiad am ehangu cylch gwaith y Coleg Cymraeg er mwyn sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg ôl-16, mae ymgyrchwyr yn gofyn ble mae’r arian i wireddu hynny, ac wedi galw ar y Llywodraeth i glustnodi arian ychwanegol ar unwaith ar gyfer prentisiaethau Cymraeg.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gwario £111.5 miliwn y flwyddyn nesaf ar eu rhaglen prentisiaethau. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Weinidogion i glustnodi £10 miliwn o’r gyllideb honno ar gyfer prentisiaethau cyfrwng Cymraeg ar unwaith, gan gynyddu hynny i £20 miliwn y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, dim ond 0.3% o brentisiaethau sy’n cael eu cynnal drwy’r Gymraeg ar hyn o bryd.
Meddai Toni Schiavone, is-gadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Mae'n wych bod y Coleg yn datblygu cyfrifoldeb dros y Gymraeg mewn addysg ôl-16 yn ogystal ag addysg uwch draddodiadol. Ond fydd y potensial hwn ddim yn cael ei wireddu heb i'r Llywodraeth roi i'r Coleg ei hunan adnoddau teg i gyflawni'r gwaith. Ein cwestiwn ni felly yw, ble mae’r arian?
“Un penderfyniad syml y gallai’r Llywodraeth ei gymryd nawr, a fyddai’n galluogi’r Coleg i fwrw ymlaen yn syth, fyddai clustnodi adnoddau ar gyfer prentisiaethau cyfrwng Cymraeg o’r gyllideb sylweddol sydd yn y maes yn barod. Mae’r diffyg prentisiaethau Cymraeg yn sgandal ar hyn o bryd, ac mae modd taclo’r sefyllfa’n syth.”