Blwyddyn o Brydeindod yn anwybyddu cymunedau Cymraeg?

50 hannercant.jpgY Gymdeithas i "newid yn radical" yn 50 i ymateb i'r her, medd ei ChadeiryddMAE pryder y bydd dyfodol cymunedau yn cael ei anghofio yn sgil digwyddiadau Prydeinig, yn ôl araith gan Gadeirydd y mudiad heddiw (Dydd Sadwrn, Ionawr 7fed).Wrth i Gymdeithas yr Iaith, ddathlu ei phen-blwydd yn 50, bydd Bethan Williams, Cadeirydd y mudiad yn annerch aelodau mewn fforwm newydd - y Cyngor - heddiw (Dydd Sadwrn 7fed Ionawr) yn Aberystwyth gyda her iddynt newid.Sefydlwyd y Gymdeithas yn sgil darlith Tynged yr Iaith Saunders Lewis, a ddarlledwyd ar Chwefror 13, 1962. Er bod Mr Lewis yn dod o safbwynt adain dde, gwrthodwyd y wleidyddiaeth honno gan sefydlwyr y Gymdeithas, sydd yn fudiad sosialaidd. Ychwanegodd Bethan Williams y bydd y Gymdeithas yn ffocysu llawer iawn mwy ar ddyfodol cymunedau Cymraeg yn y cyfnod i ddod, gan ddweud :"Mewn blwyddyn o ddigwyddiadau Prydeinig, mae perygl y bydd dyfodol ein cymunedau yn cael ei anghofio. Ond allwn ni ddim fforddio i ddyfodol ein hiaith ar lefel gymunedol ddiflannu, gan fod y sefyllfa mor argyfyngus.""Mae rhai pobl yn dweud fod brwydr y Gymraeg drosodd, ond nid ydym am weld y Gymraeg fel iaith ymylol, fel iaith addysg yn unig. Y llynedd, fe gyhoeddom ddarlith Tynged yr Iaith 2, yn dweud bod rhyw fath o ddyfodol i'r Gymraeg oherwydd brwydr yr hanner can mlynedd diwethaf. Nawr, wrth i ni gamu tuag at y cyfnod nesaf yn ein hymgyrchu ryn ni'n troi ein golygon at ein cymunedau, a sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw ac yn iaith ddydd-i-ddydd. Y cwestiwn mae'r ddarlith newydd yn ei gosod yw: ai diwylliant lleiafrif neu briod iaith ein cenedl fydd y Gymraeg? Felly ein her ni dros y cyfnod nesaf fydd ymateb."Bydd hi'n dadlau y gallai strwythur Cymdeithas yr Iaith Gymraeg newid mewn ffordd 'radical' yn ystod y flwyddyn a bod angen i'r mudiad fod yn llawer mwy agored a chynhwysol yn y dyfodol. Fe fydd Ms Williams yn dweud:"Mae hen bryd i'r Gymdeithas dderbyn bod rhaid trafod dyfodol ein mudiad, a gwneud ymdrechion pellach i sicrhau ein bod ni'n gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol posib. Mae rhaid i ni fod yn agored ac yn barod i newid er lles y Gymraeg, lle bynnag mae hynny yn ein harwain fel mudiad. Nid ydym yn fodlon gweithredu yn arwynebol fel y quangos a'r sefydliadau, sydd yn ticio blychau felly mae'n rhaid i'r broses adnewyddu hon fod yn hollol gynhwysol ac agored. Mae angen i ni ymestyn allan at bawb sy'n poeni am ddyfodol yr iaith Gymraeg, nid unrhyw clique neu ddilyn yr un hen fformiwla achos ein bod ni'n gyfforddus gyda fe.""Mae angen i ni, fel mudiad, drafod yn agored gydag ein haelodau, cefnogwyr a phawb sy'n poeni am ddyfodol y Gymraeg a'i chymunedau sut y gallwn ni gryfhau. Mae llawer iawn wedi newid yng Nghymru dros y degawdau diwethaf, ac mae rhaid i ni fod yn barod i newid hefyd. Nid yw'r Gymdeithas erioed wedi ofni herio'r 'status quo'."