Cadeirydd newydd y Gymdeithas - Bethan Ruth Roberts

 

Mae Bethan Ruth Roberts, sy’n byw yn Aberystwyth, wedi’i hethol fel Cadeirydd Cenedlaethol newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. 

Cafodd Bethan ei geni yn Birmingham, cyn cael symud i Ddolgellau yn 5 mlwydd oed. Derbyniodd ei haddysg yn Ngholeg Meirion-Dwyfor, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth i wneud gradd mewn Gwleidyddiaeth Rynglwadol. 

Mae'r Gymdeithas wedi bod yn ymgyrchu dros y Gymraeg ers dros hanner can mlynedd bellach – mewn meysydd fel darlledu, hawliau, cynllunio ac addysg. 

Wrth siarad am gael ei ethol fel Cadeirydd y mudiad ymgyrchu, meddai Bethan Ruth: 

“Fy nghanolbwynt i fel Cadeirydd bydd i bontio pobl, tynnu pobl mewn, a dod â ni ynghyd efallai gyda grwpiau newydd i agor deialog er mwyn dysgu gan bobl eraill, ac i bobl eraill allu cymryd ysbrydoliaeth gan y Gymdeithas hefyd. 

 

“Dwi eisiau i bawb, yr heddychwr a’r amgylcheddwr, y ffermwr sy’n pryderu am ddyfodol eu cymuned ôl-Brecsit, y mam di-Gymraeg o Leeds sydd eisiau addysg Gymraeg i’w phlentyn, y ffoadur o Orllewin Affrica sydd eisiau gwersi Cymraeg am ddim... dwi eisiau iddyn nhw i gyd deimlo fel eu bod yn rhannu’r un weledigaeth â’r Gymdeithas, a bod eu haelodaeth nhw’n rhoi platfform i nhw, a’n golygu bod eu llais yn cael ei gynrychioli a’i gefnogi o fewn y symudiad. Dwi’n credu’n gryf y bydd sicrhau cynwysoldeb yn ein mudiad yn denu cenhedlaeth newydd o aelodau - nid o reidrwydd o oedran benodol, ond drwy estyn allan yn fwy.

Mae newidiadau mawr ar y gweill eleni i Gymru, gyda Brexit â’r argyfwng amgylcheddol yn faterion sy’n hawlio sylw pawb - a’n ddigon cywir. Ond yng ngwyneb hyn, mae’n rhaid i ni fod yn ragweithiol dros adeiladu a chryfhau ein cymunedau er mwyn gwynebu’r gwaethaf sydd i ddisgwyl.” 

Ychwanegodd: 

Mae argyfwng gennym ni ym maes darlledu yng Nghymru gyda thros 70% o gyfryngau Cymru yn dod o Lundain - mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar ddemocratiaeth - ‘sdim syndod nad yw pobl yn deall Brecsit neu ddatganoli hyd yn oed, mae’n frwydr i geisio cael unrhyw sôn am Gymru o gwbl heb sôn am gael y trafodaethau ehangach am beth sydd angen arnom i ffynnu. Mae’n bryd i ni estyn allan o fewn ein cymunedau, agor y deialog, creu y pyllau trafod ymysg ein gilydd.

“Bydd eleni yn flwyddyn dyngedfennol i’r ymgyrch dros ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru, ac rwy’n edrych ymlaen i fod yn chwarae rôl allweddol wrth ymgyrchu ochr yn ochr gyda’r grŵp digidol a’r aelodau sy’n gwrthod talu eu trwyddedau.