
Fe lansiodd ymgyrchwyr gerdyn post i anfon at Brif Weinidog Cymru yn gwrthwynebu ei bolisi niwclear ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.
Mae'r grwpiau ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a PAWB (Pobl Atal Wylfa B) yn galw ar i Carwyn Jones 'gallio' a gwrth-droi ei benderfyniad diweddar i gefnogi adeiladu adweithyddion niwclear newydd yn y wlad. Mae'r ymgyrchwyr yn dadlau y byddai effaith andwyol ar yr iaith a'r amgylchedd o gefnogi ynni niwclear.
Yn siarad cyn y brotest, dywedodd Menna Machreth, llefarydd Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Byddwn ni'n annog pawb i arwyddo un o'r cardiau dros yr haf. Mae yna opsiynau eraill sut i wneud egni, sef egni gwyrdd, opsiwn a allai olygu ffyniant economaidd i'r Ynys yn hytrach nag aros mewn tlodi fel ar ôl yr Wylfa bresennol. Mae angen i Carwyn Jones sylweddoli bod angen edrych i'r dyfodol gwyrdd yn hytrach na hen dechnoleg mae cymaint o wledydd eraill wedi troi cefn arni.
"Wylfa B fydd hoelen olaf yn arch yr iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Mae'r cyfrifiad nesaf yn mynd i ddangos dirywiad pellach yn y canran sy'n siarad Cymraeg yn yr ardal, a byddai mewnlifiad o 16,000 o bobl ar ben hynny yn andwyol i'r iaith a'i chymunedau ar yr ynys. Yr un hen hanes geir yma eto - Llywodraeth Prydain yn dweud gall cwmni preifat ddefnyddio'n adnoddau fel y mynnant, ond y tro yma mae gyda nhw Carwyn Jones yn eu cefnogi."
Ar ran PAWB, Pobl Atal Wylfa B, dywedodd Dylan Morgan:
"Yn sgil trychineb niwclear dychrynllyd Fukushima, mae gwlad ar ôl gwlad yn Ewrop wedi dewis cefnu ar ynni niwclear. Dyna hanes yr Almaen, yr Eidal, y Swistir, Gwlad Belg, ac mae arwyddion bod Ffrainc hyd yn oed yn mynd i leihau ei dibyniaeth ar ynni niwclear. Mae'n anodd deall pam bod Llywodraeth Glymblaid San Steffan yn dal i gefnogi codi gorsafoedd niwclear newydd. Anoddach byth yw deall pam bod Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru yn mynnu cefnogi'n wasaidd safbwynt Llywodraeth San Steffan ar y dechnoleg ddrutaf bosibl sy'n fygythiad i amgylchedd, tir, iaith ac iechyd pobl Cymru."