Cannoedd yn galw am addysg Gymraeg i bawb - rali Caerdydd

'Allwn ni ddim aros 800 mlynedd am addysg cyfrwng Cymraeg i bawb', dyna oedd neges drawiadol cannoedd o ymgyrchwyr heddiw (dydd Sadwrn, 13eg Chwefror) mewn rali yng Nghaerdydd. 

Yn ôl adroddiadau blynyddol y Llywodraeth ar ei strategaeth addysg Gymraeg, dros y 4 mlynedd diwethaf, mae'r canran o blant 7 mlwydd oed sy'n mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu llai na 0.1 pwynt canran bob blwyddyn. Yn ôl cyfrifau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, pe bai'r patrwm yn parhau, byddai dros 800 mlynedd nes i bob plentyn dderbyn ei addysg drwy'r Gymraeg. 

Llofnododd sawl grŵp, gan gynnwys yr undeb athrawon UCAC, Dathlu'r Gymraeg a Merched y Wawr, ddatganiad yn galw ar yr holl bleidiau sy'n sefyll yn etholiadau'r Cynulliad i drawsnewid y ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu. Cafodd y datganiad ei lofnodi yn y rali 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg' a gynhaliwyd yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sadwrn, 13eg Chwefror) lle buodd y gantores a'r digrifwr Caryl Parry Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC Elaine Edwards a'r gantores Kizzy Crawford o Aberfan yn annerch y dorf. 

Yn siarad yn y rali, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Pa blaid neu bleidiau bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru, mae rhaid iddyn nhw weithredu gyda gweledigaeth a gwireddu ewyllys y Cymry i weld ein hiaith yn ffynnu. Ar drothwy etholiadau'r Cynulliad, un o'n galwadau pwysicaf yw sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bawb. Mae'r gwleidyddion yn honni eu bod eisiau creu Cymru gwbl ddwyieithog – ond ni fydd y drefn addysg bresennol yn llwyddo i wneud hynny. Yn ôl ffigyrau'r Llywodraeth ei hun, mae twf addysg Gymraeg yn rhyfeddol o araf. Does bosibl y gall unrhyw un ddadlau nad yw'n cymryd yn rhy hir. Allwn ni ddim aros dros 800 mlynedd." 

Meddai'r gantores a digrifwr Caryl Parry Jones: "Be' sy'n bod ar siarad dwy iaith? Dim na all gweledigaeth, ewyllys a pharch ei ateb. Mae'r Gymraeg ISIO byw". 

Ychwanegodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb athrawon UCAC: " Er mwyn i ni lwyddo i gyrraedd y nod mae angen  cynllunio'r gweithlu addysg yn llawer mwy effeithiol - denu siaradwyr Cymraeg rhugl a hefyd gwella sgiliau Cymraeg eraill. Mae angen cynllunio'r holl weithlu gan gynnwys gwasanaethau cefnogi addysg. Mae'n rhaid symud ymlaen ar frys i greu a gweithredu polisïau cadarn a chlir am y Gymraeg - gan gynnwys dileu Cymraeg ail iaith. Mae polisïau addysg y gorffennol wedi creu'r problemau - dewch i ni sicrhau bod polisïau addysg y dyfodol yn eu datrys."