
Mae ymgyrchwyr wedi disgrifio datganiad y Prif Weinidog am y Gynhadledd Fawr fel un ‘chwerthinllyd’ sy’n anwybyddu prif gasgliadau’r ymgynghoriad ac yn awgrymu nad yw'r Llywodraeth yn cymryd argyfwng yr iaith o ddifrif o gwbl.
Yn y Senedd heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad am y camau nesaf yn ei “Gynhadledd Fawr” ynghylch cyflwr yr iaith.
Dywed adroddiad am brif gasgliadau’r Gynhadledd Fawr gan Gwmni Iaith, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i drefnu a dadansoddi’r ymgynghoriad, bod cyfranwyr wedi galw am nifer o newidiadau polisi megis:
- cynyddu’r buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg yn gyffredinol;
- newidiadau radical i addysg Gymraeg ail iaith;
- safonau iaith cryfion a fyddai’n taclo’r diffygion lu presennol, yn enwedig darpariaeth hamdden a gwasanaethau ieuenctid;
- newidiadau i’r system gynllunio gan gynnwys rhoi blaenoriaeth i bobl leol a sefydlu Arolygaeth Gynllunio annibynnol i Gymru.
Mae canfyddiadau’r adroddiad am yr ymgynghoriad yn tanlinellu pwysigrwydd rhagor o arian ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â’r Gymraeg, gan ddweud: “Un thema gyffredinol, a chwbl allweddol, a fu’n rhedeg drwy’r holl gyfraniadau ym mhob cyfrwng oedd mater adnoddau ... Cafwyd galwadau cyson gydol y broses ar i’r Llywodraeth gynyddu ei buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg er mwyn sicrhau gweithredu effeithiol.” Fodd bynnag, yn ôl cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, bydd y buddsoddiad yn ‘yr iaith Gymraeg’ yn y gyllideb yn cael ei gwtogi o dros £1.5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf, sef toriad o 9.6% mewn termau real.
Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae datganiad y Prif Weinidog yn chwerthinllyd. O’r Gynhadledd Fawr honedig i’w ddatganiad truenus o fach heddiw, mae ymateb y Prif Weinidog ymhell o’r hyn sydd ei angen i gryfhau’r Gymraeg. Mae bron i flwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad bellach, a dydy’r Llywodraeth heb ymateb i’r argyfwng mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Mae amser yn brin, rydyn ni’n colli 3,000 o siaradwyr y flwyddyn, ond mae gynnon ni Lywodraeth sy’n gwneud dim byd, ac sy’n anwybyddu ei hymgynghoriadau ei hun.”
“Er gwaethaf dyhead pobl Cymru i fyw yn Gymraeg yn eu cymunedau, dydyn ni ddim wedi gweld yr ymateb sydd ei angen i ddelio â'r sefyllfa argyfyngus sy'n wynebu'r iaith yn ein cymunedau. Erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn llu o adroddiadau sy’n cadarnhau’r angen am newidiadau polisi sylfaenol. Yn wir, maen nhw’n cefnogi’r prif alwadau sydd ym Maniffesto Byw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - megis addysg Gymraeg i bawb, chwyldroi’r system gynllunio a hawliau iaith pendant.
“Cafwyd adroddiad gan yr Athro Sioned Davies sy’n argymell symud at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb, adroddiad am gasgliadau’r Gynhadledd Fawr yn cefnogi rhoi blaenoriaeth i bobl leol yn y system gynllunio, ac argymhellion i sefydlu hawliau iaith gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae’r dystiolaeth i gyd yno, ond ble mae'r ewyllys gwleidyddol? Rhaid i Carwyn Jones weithredu'n gadarnhaol er mwyn i bawb gael byw yn Gymraeg.
“Ar ben hynny, ac yn gwbl groes i ganlyniadau ei hymgynghoriad ei hun, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cwtogi dros filiwn a hanner o bunnoedd o’r gyllideb fach iawn sydd ar gael i hybu'r Gymraeg.”
Mae’r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1af i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i weithredu mewn chwe maes polisi, a fyddai’n dangos ymateb digonol i ganlyniadau’r Cyfrifiad ym marn y mudiad. Bydd y grŵp pwyso yn cynnal rali yn Aberystwyth ar Ragfyr y 14eg, blwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad, er mwyn atgoffa’r Llywodraeth o’r cyfrifoldeb sydd arnyn nhw i weithredu.