Carwyn Jones yn anwybyddu'r argyfwng: Angen buddsoddi yn y Mentrau Iaith

Bydd yr ymgyrch weithredu uniongyrchol yn dwysáu” - dyna neges Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi iddo ddisgrifio datganiadau Carwyn Jones am gymunedau Cymraeg a’r Mentrau Iaith fel “ffars llwyr”.

Mae ymateb y Llywodraeth i ddau adroddiad am gymunedau Cymraeg yn gwrthod argymhellion allweddol megis sicrhau bod addysg Gymraeg i bob disgybl mewn rhai siroedd a sicrhau bod rhagor o gyrff yn gweithio’n fewnol yn Gymraeg. Does dim addewid chwaith y bydd rhagor o adnoddau yn mynd i’r Mentrau Iaith, er gwaethaf galwad clir am fwy o fuddsoddiad yn y Gynhadledd Fawr - ymgynghoriad ar sefyllfa’r Gymraeg a gynhaliodd y Llywodraeth fis Gorffennaf y llynedd.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae ymateb Llywodraeth Cymru i sefyllfa gymunedol y Gymraeg yn ffars llwyr. Maen nhw'n dal i oedi a gwrthod newidiadau pwysig. Maen nhw wedi dewis anwybyddu neu wrthod yr argymhellion fyddai'n gwneud gwir wahaniaeth - ni fydd mân newidiadau i drefniant gweinyddol y mentrau iaith yn sicrhau twf i’r Gymraeg ar lawr gwlad. Mae Carwyn Jones yn dal i oedi, yn dal i anwybyddu'r newidiadau sylfaenol sydd eu hangen - mae'n hen bryd iddo ddechrau cymryd y Gymraeg o ddifrif."

“Mae argyfwng yn wynebu’r Gymraeg, ond dyw’r Llywodraeth ddim yn gwneud dim a fydd yn ei chryfhau. Mae’r Llywodraeth wedi gwrthod argymhellion cymedrol iawn megis addysg Gymraeg i bawb mewn rhai siroedd a sicrhau bod rhagor o gyrff yn gweithio’n fewnol yn Gymraeg. Felly, bydd ein ymgyrch weithredol yn erbyn Llywodraeth Cymru yn parhau ac yn dwysáu dros y misoedd nesaf, gan nad oes arwydd bod y Llywodraeth yn cymryd yr argyfwng o ddifrif. Gydag ewyllys gwleidyddol gall pethau newid, ond hyd yn hyn mae ymateb y Llywodraeth wedi bod yn ffars.”

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ymgorffori 6 phwynt sylfaenol yn ei pholisïau:

  • addysg Gymraeg i bawb;
  • tegwch ariannol i'r Gymraeg;
  • gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg;
  • safonau iaith i greu hawliau clir; trefn cynllunio er budd ein Cymunedau;
  • a’r Gymraeg yn greiddiol i ddatblygu cynaliadwy.