Mae rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod cau ffatri Two Sisters yn Llangefni yn ergyd greulon i unigolion, teuluoedd a chymunedau cyfan, yn Llangefni a thu hwnt.
Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd y Gymdeithas, ac sy'n byw ym Môn:
“Mae Cymdeithas yr Iaith yn estyn ein cydymdeimlad a’n cefnogaeth i bawb sy’n dioddef oherwydd y penderfyniad hwn. Gofidiwn am yr ergydio pellach yma ar ein cymunedau yn yr ardaloedd tlotaf a Chymreiciaf. Bydd pob unigolyn a theulu sy’n penderfynu symud o’r ardal i chwilio am waith yn golled. Bydd llawer o’r rhai sy’n aros yn dioddef caledi.
"Tra’n gobeithio y bydd modd perswadio’r cwmni i newid ei feddwl, ofnwn fod hyn yn annhebygol. Dro ar ôl tro, gwelwn ail-adrodd y patrwm o gwmnïau mawrion yn cau ffatrïoedd ar gyrion eu hymerodraethau pan fydd yr esgid yn gwasgu. Dyna ffawd Aliwminiwm Môn, Rehau ac yn ddiweddar Orthios ar yr Ynys.
"Trychineb i’r Gymraeg a’i chymunedau fu dibynnu ar gwmnïau cyfalafol echdynnol. Cred y Gymdeithas fod yn rhaid canolbwyntio ar gefnogi busnesau cynhenid, ar hwyluso metrau cymunedol a chydweithredol, ac yn hollbwysig sicrhau perchnogaeth dros ein hadnoddau – hyn sy’n creu gwaith, a chadw yr elw yn lleol."