Mae swyddfa Gweinidog ym Mlaenau Gwent wedi cael ei gau gan ymgyrchwyr iaith heddiw sy'n protestio yn erbyn cynlluniau i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg.
Mae protestwyr wedi rhwystro mynediad i swyddfa Aelod Cynulliad Alun Davies ym Mrynmawr gyda biniau, gan alw arno fe i roi ei gynlluniau am ddeddfwriaeth newydd am y Gymraeg 'yn y bin'.
Ymysg cynigion y Bil, mae'r cynllun i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg, sef yr unig gorff sydd yn amddiffyn hawliau pobl i ddefnyddio'r iaith; lleihau rheoleiddio; rhoi mwy o rym yn nwylo'r Llywodraeth; a gwanhau hawliau cwyno pobol am gyrff nad sydd yn rhoi gwasanaeth teilwng yn y Gymraeg. Nid yw'r papur chwaith yn ehangu rheoleiddio i'r Sector breifat.
Yn siarad o'r brotest, meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Rydyn ni fel Cymdeithas wedi dweud o'r dechrau mai yn y bin y mae lle'r Bil hwn, byddai'n gwneud mwy o synnwyr na gwneud polisi'n fympwyol fel hyn. Byddai'r cynigion yma gan Lywodraeth Cymru yn troi'r cloc yn ôl i ddyddiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Rhwng diddymu Comisiynydd y Gymraeg, lleihau gallu'r cyhoedd i gwyno'n effeithiol a gwanhau'r pwerau i orfodi'r Safonau, byddai hyn yn gam mawr yn ôl. Mae angen corff annibynnol i hyrwyddo'r Gymraeg hefyd, ond nid drwy wanhau'r gyfundrefn rheoleiddio mae gwneud hynny. Mae angen un pencampwr cryf i ganolbwyntio ar reoleiddio, ac mae angen mwy o reoleiddio, nid llai."
"Mae angen Bil er lles y bobl, yr iaith a'i defnydd, nid Bil er lles y biwrocratiaid fel hyn. Byddai'n well iddyn nhw beidio deddfu o'r newydd o gwbl na throi'r cloc yn ôl fel hyn a gwanhau ein hawliau. Byddwn ni'n sefyll lan yn erbyn hyn, ac rydyn ni'n galw ar bobl Cymru i wrthwynebu hyn hefyd."