Er gwaethaf derbyn 211 o wrthwynebiadau a dwy ddeiseb yn gwrthwynebu'r cynnig i gau Ysgol Abersoch ddiwedd eleni, pleidleisiodd Cabinet Cyngor Gwynedd heddiw (28/09/21) dros gau yr ysgol.
Wrth ymateb i'r penderfyniad dywedodd Ffred Ffransis, ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Wrth gau yr ysgol mae Gwynedd yn tanseilio eu polisïau tai ac iaith eu hunain trwy gefnu ar gymuned Abersoch, ac yn anfon arwydd clir at gymunedau eraill sydd dan bwysau nad yw'r Cyngor yn barod i sefyll i fyny drostyn nhw.
Trwy gydol y broses, mae'r Cyngor wedi anwybyddu lleisiau'r gymuned a gwrthod ystyried opsiynau amgen byddai wedi galluogi'r ysgol i aros ar agor fel rhan o ffederasiwn. Roedd asesiadau'r Cyngor ei hun yn cydnabod byddai cau'r ysgol yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg a'r gymuned, ond eto maen nhw wedi eu hanwybyddu. Maent wedi bradychu'r gymuned fregus hon a thanseilio'r gobeithion o ddefnyddio'r ysgol fel sail i adfywiad y Gymraeg yn lleol.
Pryderwn yn fawr ymhellach bod y Cyngor yn bwriadu gwerthu adeilad yr ysgol, sy'n golygu na allai Cylch Meithrin na Cylch Ti a Fi barhau yno chwaith ac yn debyg o gael eu symud allan o'r pentref hefyd.
Dyfodol ein cymunedau yw dyfodol ei hysgolion, a rhaid i'n cynghorau sir gofio hynny os ydyn nhw o ddifri am ddyfodol y Gymraeg."
Mewn llythyr yn galw ar gynghorwyr i beidio cau yr ysgol dywed Ffred Ffransis mai'r ysgol yw "gobaith [y gymuned] at y dyfodol fel sefydliad cwbl Gymraeg ac yn seiliedig ar blant, ac yn ddatganiad fod y Gymraeg yn perthyn i bob dinesydd y dyfodol yn Abersoch, beth bynnag fo eu cefndir."
Mae'n rhybuddio hefyd na wnaethant ystyried "gyda meddwl agored" opsiynau amgen a godwyd yn ystod y Cyfnod Ymgynghorol a'r Cyfnod Gwrthwynebiadau. Yn hynny o beth, byddent yn methu yn eu cyfrifoldeb i gadw at y Cod Trefniadaeth Ysgolion.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ffafrio ffederasiwn rhwng ysgolion yr ardal gyda safle arbennig Ysgol Abersoch fel "Ysgol Traeth" yn ehangu'r profiad addysgol i holl ysgolion y cylch.