Cefnogaeth enwogion i atal gor-ddatblygu tai

hywel-griff.jpgMae nifer o Gymry amlwg wedi arwyddo deiseb sydd yn galw ar y Llywodraeth i adalw'r Cynlluniau Datblygu Lleol er lles y Gymraeg.Mae pryder gwirioneddol y bydd y cynlluniau yma yn arwain at ddatblygiadau tai anaddas, diangen oherwydd nad ydynt wedi eu seilio ar anghenion presennol y cymunedau. Ymysg y bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb yw'r awduron Dewi Prysor, Catrin Dafydd, Angharad Blythe a Dr Mererid Hopwood, a'r cerddorion Geraint Lovgreen, Steve Eaves, Ceri Cunnington, Lleuwen Steffan a Gwyneth Glyn.Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn annog eu haelodau i lofnodi deiseb ar wefan y Cynulliad cyn iddi gau ar ddiwedd y mis. Mae'r ddeiseb yn galw am "holl CDLl ... gael eu hatal ar unwaith er mwyn i lefel y twf mewn tai gyd-fynd ag anghenion lleol gwirioneddol.". Cyflwynwyd y ddeiseb gan nifer o grwpiau sy'n cyd-weithio er mwyn newid y gyfundrefn cynllunio bresennol, ymysg y grwpiau mae gr?p Deffro'r Ddraig a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.Meddai Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'n holl bwysig bod Llywodraeth y Cynulliad yn deall dyfnder y gwrthwynebiad i'r Cynlluniau Datblygu Lleol yma. Dydyn nhw ddim yn mynd i'r afael a'r problemau sydd yn wynebu cymunedau Cymru. Yn hytrach mae'n bosib iawn y byddant yn gwaethygu sefyllfa'r Gymraeg wrth i niferoedd anaddas o dai gael eu hadeiladu."

Ychwanegodd Alun Lenny ar ran Cyngorwr Tref yng Nghaerfyrddin, sydd yn arwain ymgyrch yn erbyn cynllun i ddatblygu mil dau gant o dai yn y dref:"D'oedd Tryweryn yn ddim, o'i gymharu â'r dinistr y gallai'r Cynlluniau Datblygu Lleol wneud i gymunedau ar draws Cymru. Yng nghefn gwlad Lloegr, mae ymgyrch gref yn cael ei hymladd ar hyn o bryd yn erbyn y fath gynlluniau. Ond mae llawer mwy na chaeau gwyrdd yn y fantol yma yng Nghymru. Byddai codi miloedd o dai, nad oes eu hangen ar bobl leol, yn hyrwyddo mewnfudo ar raddfa hollol ddinistriol i natur ieithyddol a chymdeithasol sawl ardal. Bydd hi'n rhy hwyr protestio pan fydd y teirw dur yn symud i mewn, nawr yw'r amser i wrthwynebu - gan gynnwys y weithred syml hon o arwyddo'r ddeiseb ar-lein."Dywedodd Dr Simon Brooks o Brifysgol Caerdydd:"Dylai cymunedau a chynaliadwyedd fod wrth galon y drefn gynllunio. Yn anffodus, fu hyn erioed yn wir yng Nghymru. Ond wedi datganoli, fe ddylai'r dyddiau o orfodi datblygiadau tai mawr ar gymunedau sy'n sensitif yn ieithyddol fod wedi'u rhifo. Dylid seilio targedau ar gyfer codi tai ar anghenion lleol."