Mae gwleidyddion o Gwent wedi cwrdd ag ymgyrchwyr ym Mhontypwl heddiw i ddatgan eu cefnogaeth i ddatganoli pwerau dros y cyfryngau i Gymru. Arwyddodd AC Lindsay Whittle a'r Cynghorydd Jeff Rees ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros y cyfryngau yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i godi llais ar y mater.Dywedodd Lindsey Whittle Aelod Cynulliad dros y De-ddwyrain:"Rydw i'n gefnogol iawn o'r galwadau i ddatganoli pwerau dros ddarlledu. Mae'n bwysig iawn bod penderfyniadau yngl?n â gwasanaethau yng Nghymru yn cael eu gwneud yng Nghymru."Meddai Jeff Rees cynghorydd lleol yn Nhorfaen sydd hefyd yn cefnogi'r datganiad:"Mae angen rheolaeth yng Nghymru dros ddarlledu er mwyn creu marchnad er mwyn i gwmnïau cynhyrchu lleol allu cynhyrchu rhaglenni, bydd yn creu swyddi ac arian i bobol yng Nghymru a'r economi Cymreig yn ei gyfanrwydd."