Cefnogaeth i streic cerddorion Cymru

Wrth alw am ddatganoli grymoedd dros ddarlledu i Gymru mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth i nifer o gerddorion Cymru wrth iddynt fynd ar streic am y tridiau nesaf.Meddai Bethan Williams Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Nid yn unig ein bod am weld grym dros ddarlledu yn dod yma i Gymru ond fod strwythur Gymreig a Chymraeg yn cael ei greu sydd yn blaenoriaethu ac yn gwneud yn fawr o'n cymunedau. Rydyn ni wrthi'n ceisio cael cefnogaeth trawstoriad o wleidyddion a phobl yn y diwydiant i'n galwadau drwy ofyn iddynt arwyddo ein datganiad. Mae'r ffaith fod Cymru yn cael ei hystyried yn rhanbarth o fewn y diwydiant darlledu yn codi problemau o hyd a byddai datganoli rheolaeth dros ddarlledu i Gymru yn golygu fod Cymru yn cael ei chymryd o ddifrif.""Dylai'r BBC gefnogi a hybu cerddoriaeth Gymraeg. Gan fod y BBC yn talu cerddorion drwy y PRS (Performing Rights Society), mae cerddorion Cymraeg yn derbyn hyd at 35 gwaith llai o arian na cherddorion Saesneg, mae hynny'n warth. Yn fwy na hynny mae'n ei gwneud yn anodd iawn i wneud bywoliaeth o ganu yn Gymraeg sydd yn golygu bod llai o gerddoriaeth Gymraeg ar gael i wrandawyr."