
Mae ymgyrchwyr iaith yn Iwerddon a Chymru wedi rhybuddio y bydd dylanwad gan y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd dros Lywodraeth Prydain yn fygythiad i grwpiau lleiafrifol, gan gynnwys ieithoedd leiafrifedig.
Mae'r DUP wedi pleidleisio yn gyson yn erbyn deddfu dros yr iaith Wyddeleg yng ngogledd yr Iwerddon yn ogystal â gwrthwynebu hawliau i leiafrifoedd eraill, megis pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws. Mae aelodau'r blaid wedi derbyn cerydd, yn lleol ac yn genedlaethol, am eu hymosodiadau atgas ar yr iaith Wyddeleg yn y blynyddoedd diweddar.
Meddai Tomos Jones, swyddog rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'r DUP yn blaid rhagfarnllyd sy'n erlid yr iaith Wyddeleg, ac eisiau cael gwared arni. Rydyn ni fel mudiad yn gwrthwynebu'n chwyrn caniatáu i blaid mor adweithiol gael dylanwad dros Lywodraeth Prydain - dylanwad sy'n bygwth y cyfle gorau ers cenedlaethau i sicrhau deddf iaith yng ngogledd yr Iwerddon ers canrifoedd. Mae Cymdeithas yr Iaith am ddathlu amrywiaeth, Mae'r DUP yn sefyll am werthoedd sy'n hollol wrthyn i ni, ac yn mynd i ddefnyddio er mwyn eu grym newydd er mwyn homogeneiddio, drwy danseilio'r Wyddeleg a hawliau lleiafrifoedd eraill. Rydyn ni yng Nghymru yn cydsefyll â'n cyfeillion yn Iwerddon sydd am weld ffyniant y Wyddeleg."
Ychwanegodd Ciarán Mac Giolla Bhéin o fudiad iaith Conradh na Gaeilge:
"Mae gan y gymuned iaith Wyddeleg yn y gogledd brofiad hir a phoenus o gael eu hallgau a'u hymylu o'r wladwriaeth. Mae llawer o hyn, yn enwedig dros y 10 mlynedd diwethaf, wedi dod gan fod y DUP yn gwrthod cydnabod ein bodolaeth drwy ddarparu deddfwriaeth yn seiliedig ar hawliau. Er gwaethaf cefnogaeth helaeth y cyhoedd, fel sy'n cael ei dystio gan bob ymgynghoriad cyhoeddus a gwrthdystiadau enfawr, cefnogaeth ryngwladol gan y Cenhedloedd Unedig a Chyngor Ewrop, ac, yn fwy diweddar, mwyafrif yr aelodau cynulliad etholedig yn cefnogi'r ddeddfwriaeth, mae'r DUP yn parhau i ddefnyddio ei feto i atal cynnydd ar y mater pwysig hwn.
"Os yw'r DUP yn cynyddu ei grym a dylanwad o ganlyniad i'r fargen gyda Llywodraeth Prydain, gallai dal ein hymgyrch, a arweinir gan y gymuned, yn ôl am genhedlaeth. Mae'n rhywbeth mae'n rhaid i bob cymuned flaengar sy'n parchu amrywiaeth a chynwysoldeb ei wrthwynebu."