Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni

cofnod-cymraeg-logo3.jpgCychwyn ymgyrch dros ddefnydd y Gymraeg yn y Cynulliad

Mae ymgyrchwyr iaith yn lansio ymgyrch arlein heddiw i gryfhau presenoldeb y Gymraeg yn y Cynulliad (Dydd Gwener, Mehefin 3).

Fe fydd ymgyrch grwp hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn canolbwyntio ar sichrau bod cofnod llawn o drafodion y Cynulliad ar gael yn y Gymraeg. Bydd y grwp hefyd yn pwyso am gynnydd cyffredinol yn nefnydd y Gymraeg yn y Cynulliad.

Nid yw'r Cofnod wedi bod ar gael yn ddwyieithog ers Medi 2010, ac mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrthi'n ymchwilio i'r mater, yn dilyn cwynion gan y cyhoedd.Wrth lansio'r ymgyrch, meddai Catrin Dafydd, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae pobl Cymru wedi dangos ffydd yn y Cynulliad wrth bleideisio am ragor o bwerau. Oherwydd hyn, mae mwy o gyfrifoldeb nag erioed ar ysgwyddau gwleidyddion ein corff democrataidd i ddangos a ydynt o ddifrif am brif-ffrydio'r Gymraeg i bob agwedd ar fywyd y Cynulliad ai peidio. Byddai gwyrdroi penderfyniad y trydydd Cynulliad a sicrhau fod y Cofnod llawn ar gael yn y Gymraeg yn dangos gweledigaeth ac yn symbol clir o naratif Cynulliad Cymru ar gyfer y dyfodol. Pe na baent yn gwyrdroi'r penderfyniad, byddent yn tramgwyddo hawliau iaith pobl Cymru ar lefel gwbl sylfaenol. Byddai parhau â'r sefyllfa fel ag y mae yn gosod cynsail peryglus iawn ar gyfer y dyfodol, ac yn gwbl groes i'r datganiad fod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru yn dilyn pasio Mesur y Gymraeg, 2011."

Mae'r mudiad iaith wedi llythyru aelodau'r Comisiwn i sichrau y bydd Cofnod gwbl ddwyiethiog o drafodion yn y Cynulliad ar gael yn y dyfodol agos. Mewn llythyr at aelodau newydd y Comisiwn, meddai Catrin Dafydd, ar ran grwp Hawliau, Cymdeithas yr iaith Gymraeg ..."Penderfynodd y trydydd Cynulliad peidio â darparu fersiwn dwyieithog llawn o Gofnod y Trafodion; penderfyniad oedd yn amhoblogaidd ymysg y cyhoedd yng Nghymru ac ymhlith Aelodau Cynulliad o bob plaid. Rydym yn erfyn arnoch felly i ddychwelyd at y polisi o ddarparu Cofnod dwyieithog cyflawn fel y gall pobl Cymru ddarllen trafodion y Cynulliad yn eu hiaith eu hunain, boed hynny yn Gymraeg neu'n Saesneg.

"Mae'r Gymraeg bellach yn iaith swyddogol yng Nghymru, yn dilyn pasio Mesur y Gymraeg 2011, ac rydym yn falch iawn o'r datblygiad hwn fel y byddwch chithau. Mae'r penderfyniad i adael i'r Cofnod - dogfen o'r pwys symbolaidd mwyaf - droi bellach yn ddogfen uniaith Saesneg ar y cyfan, ar ôl iddi fod yn gwbl ddwyieithog ers 1999, yn gwbl groes i'r datblygiad hwn ac yn sathru ar statws swyddogol y Gymraeg.

"Clywsom yn ddiweddar bod faint o Gymraeg sy'n cael ei siarad yn y Cynulliad wedi dirywio'n sylweddol, ac rwy'n siwr y bydd ein gwleidyddion eisiau mynd i'r afael a'r broblem hon. Does dim dwywaith nad yw diffyg Cofnod dwyieithog yn ychwanegu at y broblem honno gan fod angen cyd-destun dwyieithog er mwyn i ddefnyddio'r Gymraeg yn y Siambr a'r tu hwnt fod yn gam naturiol. Mae perygl gwirioneddol i'r Gymraeg droi yn ddim mwy nag addurn yn y Cynulliad. Bydd hynny yn tanseilio'r Gymraeg ar draws gwlad."Mae prinder Cofnod dwyieithog yn fater o bwys i'n haelodau, ac mae unigolion o bob cwr wedi cynnig ymgyrchu ar y mater hwn. Rydym ar ddeall hefyd bod Bwrdd yr Iaith yn ymchwilio i'r mater o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Os yw'r Cynulliad ei hun yn torri ei Gynllun Iaith, pa obaith sydd i weddill sefydliadau Cymru?

"Deallwn ei bod yn fwriad cyflwyno Bil ar gyfer diogelu'r Gymraeg yn y Cynulliad. Mae hyn yn rhywbeth mawr ei angen, a byddwn yn cadw golwg ar y datblygiadau hynny. Fodd bynnag, bydd sicrhau Cofnod dwyieithog unwaith eto yn hanfodol fel rhan o'r rhethreg ynghylch 'corff gwirioneddol ddwyieithog' sy'n cael ei ddefnyddio mor aml heb ystyried ystyr hynny. Mae angen cofnod dwyieithog fel man cychwyn cyn adeiladu ymhellach ar hynny wedyn. Mater o egwyddor yw hyn, parchu hawliau iaith pobl Cymru ar lefel sylfaenol."Pan beidiodd y Cofnod â bod yn ddwyieithog am y tro cyntaf, daeth aelodau o bob plaid ynghyd i fynegi pryder ac i'n sicrhau y byddai'n parhau yn ddwyieithog. Erfyniwn ar ein haleodau Cynulliad felly i wyrdroi'r penderfyniad a wnaethpwyd gan y Cynulliad blaenorol ynglyn a'r mater hollbwysig hwn."