Coleg Cymraeg: Croesawu argymhellion i'w ehangu i addysg bellach

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cefnogi prif ergyd adroddiad grŵp a sefydlwyd i adolygu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Mae'r Gymdeithas yn gweld cyfle mawr i'r Coleg fod yn hwb nid yn unig i addysg Gymraeg, ond hefyd i ddatblygiad economaidd Cymru a hynny'n naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae'r mudiad yn holi a yw'r ewyllys gwleidyddol gan y llywodraeth i ddyrannu'r adnoddau i sicrhau llwyddiant y datblygiad hwn. 

Esbonia Ffred Ffransis, aelod o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: 

"Cefnogwn brif ergyd yr adroddiad y dylai'r Coleg gael sicrwydd am ei ddyfodol a datblygu cyfrifoldeb dros addysg bellach ac addysg gyfrwng-Cymraeg yn y gweithle yn ogystal ag addysg uwch draddodiadol. Croesawn hefyd y daw'r Coleg yn ffocws i ddarparu adnoddau Cymraeg ar gyfer yr ysgolion. Gall y datblygiadau hyn gynnig atebion ar gyfer y sefyllfa warthus bresennol lle bo bron y cyfan o addysg yn y gweithle trwy gyfrwng y Saesneg, a bod disgyblion ysgol sy'n dilyn cyrsiau Cymraeg o dan anfantais o ddiffyg adnoddau. Ond ni chaiff y potensial hwn ei wireddu heblaw am fod y llywodraeth yn rhoi i'r Coleg ei hun adnoddau teg i gyflawni'r gwaith." 

Ychwanega "Gall ddod â'r meysydd hyn dan un olygu fod y Coleg yn gallu creu cyrsiau arloesol newydd ar draws ffiniau traddodiadol i rymuso myfyrwyr gyda'r wybodaeth a sgiliau i roi hwb economaidd i Gymru." 

"Yr unig bryderon sydd gyda ni o ddarllen yr adroddiad yw na bydd y llywodraeth yn ymateb yn deilwng, ac hefyd yr awgrym y dylai'r Coleg fod yn bwyllgor marchnata a dyrannu adnoddau yn lle bod yn gorff addysgol arloesol yn ei hawl ei hun. Galwn ar y Gweinidog i egluro'r sefyllfa ar y ddau bwynt holl-bwysig hyn"

Y Stori yn y Newyddion:


Golwg360
Cymru Fyw