Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r penderfyniad i ehangu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i addysg bellach, ond mae'r mudiad yn holi a yw'r ewyllys gwleidyddol gan y llywodraeth i ddyrannu'r adnoddau i sicrhau llwyddiant y datblygiad hwn.
Meddai Ffred Ffransis, aelod o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Mae hwn yn gam mawr ymlaen. Mae'n wych bod y Coleg wedi cael sicrwydd am ei ddyfodol ac yn datblygu cyfrifoldeb dros y Gymraeg mewn addysg bellach ac addysg yn y gweithle yn ogystal ag addysg uwch draddodiadol. Croesawn hefyd y ffaith y daw'r Coleg yn ffocws i ddarparu adnoddau Cymraeg ar gyfer yr ysgolion. Dylai'r datblygiadau hyn gynnig atebion ar gyfer y sefyllfa warthus bresennol lle bo bron y cyfan o addysg yn y gweithle trwy gyfrwng y Saesneg, a bod disgyblion ysgol sy'n dilyn cyrsiau Cymraeg o dan anfantais fawr oherwydd diffyg adnoddau. Ond ni chaiff y potensial hwn ei wireddu heb i'r llywodraeth roi i'r Coleg ei hun adnoddau teg i gyflawni'r gwaith."
Ychwanegodd:
"Yn lle aros am flynyddoedd i sefydlu'r corff newydd TERCW a threfn newydd integredig ar gyfer addysg bellach ac uwch yng Nghymru, bydd y gwaith o integreiddio addysg cyfrwng Cymraeg yn cychwyn yn syth dan arweiniad y Coleg Cymraeg. Golygir y bydd addysg Gymraeg ar flaen y datblygiadau cyffrous newydd ar gyfer addysg ôl-16 yn lle llusgo peth amser ar ôl. Yn wir, y sector addysg Gymraeg fydd y cynllun peilot ar gyfer dyfodol addysg yng Nghymru, ac felly mae'n hollbwysig bod y llywodraeth yn dyrannu'r adnoddau angenrheidiol i'r Coleg i sicrhau llwyddiant y fenter."