![](https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/imagecache/newyddion_prif/toniamddifadu.jpg)
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r newyddion am golledion ariannol y Mudiad Meithrin.
Dywedodd cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Toni Schiavone:
"Mae'r heriau ariannol y mudiad yn dangos bod angen i'r Llywodraeth flaenoriaethu'n llawer iawn mwy darpariaeth Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar. Yn sicr, mae'n faes allweddol os yw'r Llywodraeth o ddifrif am greu miliwn o siaradwyr. Yn ddiweddar, cyflwynon ni ddeiseb i'r Llywodraeth am yr angen i gynyddu'n sylweddol cyllideb Cymraeg i Blant fel bod trosglwyddo'r iaith yn y teulu yn dod yn flaenoriaeth. Mae rhaglenni i gynyddu defnydd yr iaith ar yr aelwyd yn hanfodol bwysig."