Comisiwn Cymunedau Cymraeg: Galw ar Lywodraeth Cymru i “gydnabod yr argyfwng” a gweithredu ar frys

Yn dilyn cyhoeddiad adroddiad terfynol y Comisiwn Cymunedau Cymraeg heddiw (dydd Iau, 8 Awst), mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “gydnabod yr argyfwng” sy’n cael ei amlinellu yn yr adroddiad a gweithredu ar frys ar ei argymhellion mewn meysydd megis tai a chynllunio yn ogystal ag addysg.

Dywedodd Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith:

“Rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod yr egwyddor bod cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg yn hollbwysig i ddyfodol yr iaith ar draws Cymru gyfan fel iaith gymunedol fyw. Mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio’r ffaith ei bod hi’n argyfwng o ran yr iaith yn ein cymunedau Cymraeg ac y bydd gweithredu yn y blynyddoedd nesaf yn penderfynu eu tynged. Cyfrifoldeb y Llywodraeth nawr yw cydnabod yr argyfwng a gweithredu er mwyn ei wrthdroi."

Addysg

O ran polisiau addysg yr adroddiad, dywedodd Joseff:

“Mae’r adroddiad yn galw ar symud yr holl ysgolion ar hyd y continwwm i ddod yn ysgolion Cymraeg, fel y ffordd fwyaf effeithiol o greu siaradwyr Cymraeg newydd. Mae’n rhaid i hyn ddigwydd yn gyflym iawn yn y siroedd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfa. Mae angen cynllunio a chyllido sylweddol uwch gan Lywodraeth Cymru i wireddu hynny."

Tai

Ychwanegodd Joseff:

“O ran tai, mae’r adroddiad yn symud y drafodaeth ymlaen o ail gartrefi yn unig ac yn cydnabod bod y farchnad dai agored yn ehangach yn fygythiad i’n cymunedau. Gan fod y farchnad dai ar hyn o bryd yn trin tai fel asedau masnachol yn hytrach na chartrefi, mae teuluoedd a phobl ifanc yn cael eu gorfodi o’u cymunedau, sy’n gwanhau’r iaith yn y cymunedau hyn o fis i fis.

“Rydyn ni felly’n croesawu llu o’r polisïau sy’n cael eu hargymell, er enghraifft cynllunio yn ôl angen cymunedau lleol, darparu cymorth cyfalaf er mwyn hwyluso mentrau tai cymdeithasol a chynllun peilot ar stad o dai cymdeithasol yn y gogledd-orllewin i dreialu ymyraethau i wrthdroi dirywiad yr iaith. Bydd y rhain yn sicr o leddfu peth ar yr argyfwng, ond fydd dim llai na Deddf Eiddo gyflawn, fyddai’n sefydlu hawl cyfreithiol pobl Cymru i dŷ yn lleol, yn mynd i’r afael go iawn â niwed y farchnad dai agored yn ein cymunedau.”