
Mae’r toriad o dros £1.5 miliwn i fuddsoddiad yn y Gymraeg a gyhoeddwyd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru heddiw wedi ei gondemio gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Yn ôl y gyllideb ddrafft, bydd y gwariant ar yr iaith Gymraeg yn y gyllideb yn cwympo o £25,076,000 eleni i £24,376,000 yn 2014-15, gan gwympo ymhellach i £23,511,000 yn 2015-16. Byddai hynny’n doriad o £700,000 y flwyddyn nesaf a £856,000 yn y flwyddyn ganlynol.
Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r toriadau hyn nid yn unig yn gwbl annerbynniol, ond yn mynd yn gwbl groes i’r hyn mae pob plaid wedi dweud wrthom ers canlyniadau’r Cyfrifiad – sef bod angen rhagor o fuddsoddiad er mwyn sicrhau twf yn y Gymraeg. O ystyried yr argyfwng a ddaeth yn amlwg drwy ganlyniadau’r Cyfrifiad, mae’r toriadau yma yn mynd i’r gwrthwyneb i’r hyn sydd ei angen: dylid cynyddu’r buddsoddiad yn y Gymraeg ar draws holl adrannau’r Llywodraeth.”
Hefyd, dywedodd y mudiad ei fod yn ‘synnu’n fawr’ fod Carwyn Jones heb gyhoeddi asesiad effaith iaith y gyllideb fel addawyd ganddo ym mis Chwefror eleni mewn cyfarfod â swyddogion y mudiad iaith.
Ychwanegodd: “Beth fyddai diben asesiad effaith iaith o gyllideb wedi i’r gyllideb gael ei phasio? Efallai mai’r gwir rheswm i’r oedi yma yw cuddio’r effaith negyddol bydd y toriadau hyn, heb os, yn ei gael ar y Gymraeg. Wedi’r cyfan, dylai’r asesiad sicrhau bod patrymau gwariant nifer o adrannau’r llywodraeth yn newid, a hynny er lles yr iaith. Mae angen yr asesiad nawr fel bod modd i Aelodau Cynulliad allu craffu ar y gyllideb yn iawn.”
Yn ei Maniffesto Byw, cynigion polisi manwl a gyhoeddwyd fel ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad, dywed y mudiad y dylai fod adolygiad cyflawn o effaith iaith holl wariant y llywodraeth. Dywedant hefyd y dylid cynyddu’r adnoddau a roddir i hyrwyddo’r Gymraeg i’r un lefel â Gwlad y Basg, sef pedair gwaith cymaint â’r gwariant presennol yng Nghymru.