
Mae mudiad iaith wedi croesawu'r buddsoddiad ychwanegol yn y Gymraeg a ddaw yn sgil bargen rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur ar y gyllideb gyhoeddwyd heddiw, gan alw am dargedu adnoddau ar ddysgu Cymraeg i weithwyr ym meysydd addysg a gofal iechyd.
Daw'r newyddion y bydd £5 miliwn ychwanegol i brosiectau i hyrwyddo'r Gymraeg dros ddeufis ers i Gymdeithas alw am fuddsoddiad o £100 miliwn ychwanegol er mwyn creu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Galwodd y mudiad am gefnogaeth ariannol sylweddol er mwyn sicrhau cynnydd cyflym yn nifer yr ymarferwyr addysg sy'n gallu dysgu drwy'r Gymraeg ac yng nghapasiti'r system i addysgu yn yr iaith.
Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n croesawu'r buddsoddiad ychwanegol. Mae'n bwysig nad yw buddsoddiad am flwyddyn yn unig, ond yn rhan o gynllun hir dymor i gynyddu buddsoddiad i lefelau a welwn ni yng Ngwlad y Basg. Er mwyn gwneud y gorau o'r arian ychwanegol i Gymraeg i Oedolion, mae'n rhaid ei dargedu ar feysydd gwaith o bwys megis y gweithlu addysg, gofal iechyd a blynyddoedd cynnar. Heb os, ac fel mae'r Llywodraeth yn cydnabod, mae'n rhaid buddsoddi'n sylweddol cyn gynted â phosibl er mwyn creu gweithlu addysg fydd yn gallu creu miliwn o siaradwyr.
"Ers nifer o flynyddoedd mae Cymru wedi bod yn tanfuddsoddi'n ddifrifol yn y Gymraeg ac felly nid ydym fel gwlad yn elwa'n llawn o'r manteision addysgiadol, diwylliannol ac economaidd a allai ddeillio o'n hiaith genedlaethol unigryw. Yng Ngwlad y Basg, mae Llywodraeth y rhanbarth ymreolaethol yn gwario tua 1% o'u cyllideb datganoledig ar brosiectau i hyrwyddo'r Fasgeg; yma mae'r ffigwr yn parhau i fod yn llawer llai na hynny."
Wrth groesawu'r newyddion bod bwriad i sefydlu corff newydd i hyrwyddo'r Gymraeg, rhybuddiodd Heledd Gwyndaf na ddylai fod ar draul gwaith Comisiynydd y Gymraeg:
"Yn ystod y ddadl am Fesur y Gymraeg saith mlynedd yn ôl roedden ni'n gyson yn galw am gorff i hyrwyddo'r Gymraeg ar wahân i Gomisiynydd y Gymraeg. Felly, mae'n braf gweld gweithredu ar yr alwad honno. Mae'n bwysig nad yw'r buddsoddiad yn dod ar draul gwaith Comisiynydd y Gymraeg, corff sydd wedi dioddef toriadau difrifol sy'n effeithio ar ei allu i amddiffyn a hybu hawliau pobl i'r Gymraeg."