Cwestiynau am barodrwydd Cyngor Wrecsam i gefnogi siaradwyr Cymraeg

Wedi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gymeradwyo ei Strategaeth Hybu’r Gymraeg ddoe, Mai 9, dywed Cymdeithas yr Iaith ei bod yn beth da bod y Cyngor yn derbyn bod cyfleoedd i blant ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd y tu allan i’r cartref a’r ysgol yn hanfodol, ond nad ydy gweithgareddau achlysurol a dathliadau unwaith y flwyddyn yn cyflawni hyn. 

Dywedodd Sian Howys ar ran grŵp Hawl i'r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith:
“Dylid adnabod a blaenoriaethu’r gweithgareddau y mae plant a phobl ifanc yn eu gwneud yn rheolaidd trwy’r flwyddyn a chreu strategaeth i’w darparu yn Gymraeg.
“Cred y cyngor er enghraifft y dylai pob plentyn ddysgu i nofio. Mae safonau’r Gymraeg yn gosod dyletswydd statudol ar yr awdurdod i gynnig gwersi yn Gymraeg. Ond cael eu hamddifadu o hyd y mae plant y sir.”

Yn dilyn ymchwiliad yn 2020 a dyfarniad o fethiant i gydymffurfio â Safonau fyddai'n sicrhau gwersi nofio yn Gymraeg, bu i Gomisiynydd y Gymraeg orchymyn i’r awdurdod “uwch-sgilio mwy o staff i ymgymryd â gwersi nofio yn y Gymraeg”. Dair blynedd yn ddiweddarach, dydy’r Cyngor ddim wedi gwneud hynny gan nad yw gwersi nofio ar gael yn Gymraeg o hyd.

Ychwanegodd Sian Howys:
“Mae’r Cyngor yn ailadrodd yr esgus bod prinder siaradwyr Cymraeg yn ceisio am swyddi ond gwir achos ei fethiannau yw diffyg strategaeth dros y blynyddoedd.
“Mae’n dda gweld bwriad i gynyddu staff sy’n siarad Cymraeg ar draws y sefydliad ond eto does dim camau ar gyfer hynny heblaw gwneud y Gymraeg yn ofynnol i ragor o swyddi. Mae’n amlwg felly bod yr awdurdod yn parhau i lusgo ei draed o ran datblygu a buddsoddi yn ei gweithlu. Mae’n codi cwestiynau dilys am agwedd y cyngor a’i barodrwydd i gefnogi siaradwyr Cymraeg ifanc a'i staff ei hun.”

Mae Strategaeth Hybu'r Gymraeg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i'w weld yma, dan eitem 5