Cwestiynau am “Cynhadledd Fawr” y Llywodraeth

Mewn Cyfarfod Cyffredinol o aelodau Cymdeithas yr Iaith a gynhaliwyd yn Rhydaman dros y Sul, cytunwyd i ddanfon ymateb Llywodraeth Cymru i "Maniffesto Byw" y Gymdeithas yn ôl at Carwyn Jones, gan ofyn iddo am ymateb mwy ystyrlon i'r cynigion.

[Cliciwch yma i weld llythyr Carwyn Jones]

Daw’r newyddion wedi i Lywodraeth Cymru ddanfon llythyr deunaw tudalen at yr ymgyrchwyr iaith fel ymateb i’w dros dri deg o argymhellion polisi i gryfhau’r iaith yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad. Yn ei lythyr at Carwyn Jones yn egluro penderfyniad y cyfarfod, dywed Toni Schiavone, llefarydd y Gymdeithas ar Gymunedau Cynaliadwy, fod y Gymdeithas yn ddiolchgar am ateb mor fanwl i bob pwynt o'r Maniffesto Byw, ond yn mynegi pryder mai rhestru'r hyn mae'r llywodraeth eisoes yn ei wneud wna'r ateb yn hytrach nag ymateb i bosibiliadau newydd.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Er i ni  groesawu ymateb manwl iawn y Llywodraeth i’n cynigion polisi, os mai unig ymateb y Llywodraeth i gynigion mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith yw rhestru'n hunan-amddiffynnol yr hyn y maent yn ei wneud ar hyn o bryd, does dim llawer o ddiben i'w "Chynhadledd Fawr". Rydyn ni’n dychwelyd yr ymateb at y llywodraeth felly - a gofyn iddyn nhw am eu cynlluniau newyd ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae angen iddynt ddadansoddi opsiynau am weithredu'n ychwanegol neu mewn modd gwahanol. Fydd dim pwynt i neb fynd i gynnig syniadau newydd os na bydd meddwl agored gan y llywodraeth ac os bydd yn ceisio amddiffyn ei hun yn unig.
 

“Gyda llai na phedair wythnos tan prif ddigwyddiad y Gynhadledd Fawr, mae ein haelodau ni yn dechrau cwestiynu pwrpas y broses gan nad yw’n ymddangos bod y Llywodraeth yn mynd ati o ddifrif i wrando."

Mewn cyfarfod cyfarfod cyffredinol arbennig dros y penwythnos, ystyriodd y mudiad dros gant o sylwadau i’w “Maniffesto Byw” sydd yn gwneud dros dri deg o argymhellion i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod.