Cydsafiad ag Imam Sis a’r ymprydwyr Cwrdaidd

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyd-sefyll gydag Imam Sis a’r holl gymrodyr sy’n ymprydio ar y cyd gydag Aelod Seneddol Cwrdaidd yr HPD, Leyla Güven, er mwyn dod â charchariad unigol Abdullah Öcalan i ben. Mae Imam Sis yn byw yng Nghasnewydd, ac wedi bod yn ymprydio ers 71 diwrnod bellach. Mae Abdullah Öcalan yn diodde carchariad unigol ers cael ei arestio ugain mlynedd yn ôl - mae hyn yn cael ei ystyried yn ffurf ar arteithio. Ni chaniatawyd ymweliadau iddo gan ei gyfreithwyr ers 2011. Yn ôl pob tebyg, pwysau gan ymprydwyr oedd wrth wraidd caniatáu i Abdullah Öcalan weld ei frawd, Mehmet, ddydd Sul y 13eg o Ionawr eleni – dyna’r tro cyntaf iddo gael cysylltu ag aelod o’i deulu ers tair blynedd. Er hynny, yn dilyn ymweliad deng munud o hyd, mae Öcalan yn dal i gael ei garcharu ar wahân, ac mae disgwyl i’r ymprydwyr ddal ati.

Mae Senedd Gwrdaidd Cymru yn mynnu bod:

1) – bod y Pwyllgor Atal Artaith yn ymweld â Charchar Imrali er mwyn cadw golwg ar amodau carchariad Abdullah Öcalan.

2) – bod Llys Hawliau Dynol Ewrop yn gweithredu yn erbyn Llywodraeth Twrci sy’n torri hawliau dynol Abdullah Öcalan.

3) – bod Llywodraeth Cymru yn galw ar y Pwyllgor Atal Artaith a Llys Hawliau Dynol Ewrop i weithredu.

4) – bod Llywodraeth Cymru yn gwrthsefyll unrhyw weithredu milwrol gan Wladwriaeth Twrci, neu sydd wedi’i gynllunio ganddo, yn Ffederasiwn Ddemocrataidd Gogledd Syria, sydd ymysg y rhanbarthau mwyaf democrataidd yn y Dwyrain Canol.

Arweinydd gwleidyddol chwyldroadol yw Abdullah Öcalan, a fu’n brwydro ac yn ymgyrchu dros ryddid i Gwrdistan ers dros ddeugain mlynedd. Ers ei garcharu ym 1999 mae wedi datblygu strategaeth i ryddhau Cwrdistan sydd y tu hwnt i batrwm traddodiadol cenedl-Wladwriaeth, drwy Gynghreiriaeth Ddemoctrataidd. Mae hon yn ddamcaniaeth dan ddemocratiaeth-uniongyrchol, sy’n ymwneud â sefydlu strwythurau a sefydliadau gwleidyddol newydd er mwyn i rym ddod o lawr gwlad; gan gynghorau lleol a chynghreiriau i gyrff ffederal ehangach. Mae’r strwythurau hyn yn galluogi gweithredu ysgwydd wrth ysgwydd dros werthoedd cyffredin fel rhyddid merched, iechyd amgylcheddol a chynaliadwyedd, yn ogystal â chynnig cefnogaeth wleidyddol a strwythurol i leiafrifoedd ethnig a chrefyddol.

Yn dilyn brwydr dros Kobane yn 2014, pan frwydrodd Unedau Amddiffyn y Bobl (YPG/YPJ) gyda Daesh/ISIS, mae dinasoedd, trefi a phentrefi yng ngogledd Syria wedi mabwysiadu Cynghreiriaeth Ddemocrataidd, a chreu’r corff gwleidyddol, Ffederasiwn Democrataidd Gogledd Syria, sydd â’r amcan o geisio ymreolaeth raddol i Wladwriaeth Syria, a galluogi tlodion a’r dosbarth gweithiol drwy strwythurau a sefydliadau gwleidyddol.

Mae dod â charchariad unigol Abdullah Öcalan i ben yn hanfodol i ddatrys y ‘Cwestiwn Cwrdaidd’, i heddwch yn y Dwyrain Canol ac i weddill y byd. I fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein wynebu ni i gyd yn ystod y ganrif hon, mae diogelwch a syniadau Abdullah Öcalan o bwys mawr.

Mae angen cefnogaeth ar Imam Sis. Ewch i’w weld yng Nghanolfan Gymunedol y Cwrdiaid lle mae’n aros ar hyn o bryd neu anfonwch gerdyn yn datgan eich cefnogaeth ato. Y cyfeiriad yw: Imam Sis, Canolfan Gymunedol y Cwrdiaid, 119-121 Chepstow Road, Casnewydd, NP19 8BZ