Cyfle i ddylunio crys-T dathlu'r 60!

Rydyn ni'n chwilio am ddau gynllun newydd - un ar gyfer crys-T i oedolion ac un ar gyfer crys-T plant

Rydyn ni'n edrych am ddelwedd neu gelf weledol all ddangos i'r byd fod Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn hawlio lle i'n hiaith a'n treftadaeth ers trigain mlynedd. Rydym yn edrych am gynlluniau trawiadol a chyfoes, ond sy'n adlewyrchu chwe degawd o ymgyrchu, aberthu a brwydr y chwyldro yng Nghymru.

Canllawiau’r gystadleuaeth:

  • Dylech osgoi defnyddio '60' fel nad yw'r crys-t yn dyddio

  • Dylai'r ddelwedd fod yn glir ac o faint A4

  • Dylai'r gwaith celf fod yn ddu a gwyn (unlliw)

  • Peidiwch cynnwys cysgodion / half-tones

  • Os ar gyfrifiadur dylai'r gwaith celf fod ar ffurf vector/llinell

  • Mae defnyddio Adobe Illustrator yn ddelfrydol

  • Awgrymir defnyddio markers, e.e. sharpies neu frws du (yn hytrach na phensil).

Logo Tafod: Does dim rhaid cynnwys y logo yn eich dyluniad ond mae'r tafod mewn ffeil svg ar gael yma

Gwobr: £100 i'r buddugol

Beirniaid: Steffan Dafydd, Carwyn Hedd a Mirain Owen

Dyddiad cau: 25 Mawrth 2022

Anfonwch y cynllun at: post@cymdeithas.cymru, neu Cymdeithas yr Iaith, Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth, SY23 1JH.

Cysylltwch am wybodaeth bellach.