Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r newyddion heddiw y bydd argymhelliad gerbron cyfarfod llawn Cyngor Sir Caerfyrddin yr wythnos nesaf i gychwyn yn syth y gwaith o lunio Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer y ddegawd nesaf.
Dywedodd cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin, Sioned Elin:"Cynllun i lenwi pocedi datblygwyr tai oedd y cynllun presennol, a throdd allan i fod yn dipyn o ffars gan na chafodd mwyafrif mawr y tai eu hadeiladu yn y diwedd oherwydd yr argyfwng economaidd. Mae swyddogion ac arweinwyr y Cyngor yn ddoeth iawn i argymell fod y Cyngor yn awr yn cychwyn o'r newydd i lunio cynllun newydd yn lle anelu at ddiwygio'r hen gynllun sy'n gorfod dod i ben yn 2021 beth bynnag. Y newid sylfaenol yw fod angen cynllun i gryfau ein cymunedau lleol yn hytrach na chynllun i roi elw i hapfasnachwyr, ac yr ydym yn annog Cynghorau Bro y sir ac eraill i gyfrannu at y broses yn ystod y flwyddyn nesaf o greu cynllun newydd"
Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol presennol Cyngor Sir Gaerfyrddin yn 2014, ac yn unol â rheoliadau bu monitro blynyddol ohono. Bydd adolygiad llawn o’r Cynllun nawr cyn i’r cyngor fynd ati i lunio Cynllun o’r newydd mewn ymgynghoriad â phobl y sir.
Mae papurau'r cyngor i'w gweld yma (eitem 10 - tud 25 ymlaen)