Cyflwyno “gweledigaeth radical” Plaid Cymru yn rali Nid yw Cymru ar Werth

Bydd Siân Gwenllian AS yn cyflwyno gweledigaeth Plaid Cymru ar gyfer etholiad y Senedd fis Mai flwyddyn nesaf yn rali ddiweddaraf Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith fydd yn cael ei chynnal ym Methesa fis nesaf.  

Yn y rali 'Nid yw Cymru ar Werth: Grym yn ein Dwylo' ar y 1af o Dachwedd, bydd Cymdeithas yr Iaith yn protestio yn erbyn y diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, yn ogystal â rhoi hwb i ymlediad sylweddol mentrau cymunedol trwy'r wlad i geisio sicrhau'r dyfodol o'r gwaelod i fyny.  

Siân Gwenllian yw cynrychiolydd etholaeth Arfon yn Senedd Cymru a Llefarydd Plaid Cymru dros Dai a Chynllunio, ac fe fydd yn areithio yn y rali. Meddai:

"Dwi'n edrych ymlaen at sefyll ysgwydd-yn-ysgwydd â'n cymunedau yn y rali hon i fynnu system dai sy'n blaenoriaethu pobol dros elw. Mae cartref clyd yn sylfaen cryf i'n hurddas, iechyd a chyfleoedd bywyd, ond mae gormod o gymunedau Cymru wedi cael eu gwagio gan brisiau uchel a diffyg gweithredu gan y llywodraeth.

"Yn y rali byddaf yn cyflwyno gweledigaeth radical Plaid Cymru ar gyfer etholiad y flwyddyn nesaf - gwneud yr hawl i gartref yn rhan sylfaenol o gyfraith Cymru, cryfhau hawliau tenantiaid a darparu cartrefi gwyrdd, fforddiadwy i bawb gyda ffocws penodol ar gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol."

Ar ran Cymdeithas yr Iaith, bydd Osian Jones yn condemnio'r Llywodraeth am ei diffyg parodrwydd i weithredu argymhellion adroddiad terfynol y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar ddyfodol cadarnleoedd yr iaith, ac yn galw am adolygu Polisïau Gosod Tai Cymdeithasol er mwyn sicrhau pwyslais newydd ar y sector hwn.

Ymhlith siaradwyr eraill y rali fydd Mel Davies, Jaci Cullimore, a Huw Williams (Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor). Bydd y dorf yn ymgynnull am 12 o'r gloch yng Nghanolfan Chwaraeon Plas Ffrancon ar gyfer gorymdaith fydd yn ymdeithio draw at y rali yn Neuadd Ogwen am 1 o'r gloch.