Mae gosod nod o Addysg Gymraeg i Bawb yn hanfodol er mwyn atal dirywiad y Gymraeg. Mae cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 heddiw wedi dangos gostyngiad yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg.
Meddai Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith, Robat Idris:
“Mae’r Llywodraeth wedi datgan bwriad i anelu am filiwn o siaradwyr, ond heb weithredu i sicrhau’r twf angenrheidiol. Mae canlyniadau heddiw yn dangos bod rhaid newid gêr ar frys – un peth ymarferol y gall y Llywodraeth ei wneud rŵan ydy gosod nod yn y Ddeddf Addysg Gymraeg newydd y bydd pob plentyn yn cael eu haddysg drwy’r Gymraeg. Drwy osod taith glir tuag at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb, mi fyddwn ni’n sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol i gyd yn dod i siarad Cymraeg, fyddai’n golygu y gallwn ni ddisgwyl gweld newid cadarnhaol o Gyfrifiad 2031 ymlaen."
Mae’r mudiad hefyd yn pryderu am y pwysau difrifol ar gymunedau Cymraeg, sydd wedi’i amlygu unwaith eto yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad heddiw.
Ychwanegodd Robat Idris:
“Hyd yn oed yn fwy difrifol na'r ffaith fod cyfanswm y siaradwyr Cymraeg wedi disgyn eto, mae'r ffaith fod ein cymunedau Cymraeg dan fygythiad enbyd wrth i bobl leol gael eu gorfodi i adael oherwydd diffyg cartrefi sy’n fforddiadwy ar gyflogau lleol. Mae angen cyflwyno Deddf Eiddo fydd yn rheoleiddio’r farchnad dai, yn rhoi mwy o rym i'n cymunedau ac yn blaenoriaethu pobl leol.
“Pa ryfedd mewn gwirionedd bod gostyngiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg? Ar hyn o bryd mae 80% o’n pobl ifanc yn gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg. O ystyried hanes yr iaith, mae angen gweithredu pwrpasol gan y Llywodraeth os ydyn nhw o ddifrif am adfywiad yr iaith. Mae pethau ymarferol y gallan nhw eu gwneud ar unwaith – byddai Deddf Eiddo gadarn a Deddf Addysg Gymraeg i Bawb yn gallu newid sefyllfa’r iaith ar lawr gwlad ac yn creu’r newid sydd ei angen i ddechrau troi’r trai. Ond mae angen i’r deddfau hynny fod yn bellgyrhaeddol ac uchelgeisiol. Dydy dirywiad y Gymraeg ddim yn anochel, ond mae gweithredu o ddifri yn hanfodol.
“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth a chynghorau sir hefyd ystyried y Gymraeg ym mhob maes polisi, a pheidio neilltuo ymdrechion adfywio’r Gymraeg i swyddogion neu adrannau sy’n gyfrifol am yr iaith yn unig. Mae adfywio’r iaith yn ymdrech fawr sy’n gofyn am weithredu ar draws pob maes polisi”.
Mae disgwyl papur gwyn gan Lywodraeth Cymru ar y Ddeddf Addysg Gymraeg, ond mae’r Llywodraeth eto i gyhoeddi y bydd sicrhau addysg Gymraeg i bawb yn rhan o’r Ddeddf honno. Mae disgwyl papur gwyrdd ar Fil Eiddo a Rhentu yn ystod y Senedd hon hefyd.