Argymhelliad i ddileu Cymraeg Ail Iaith heb ei weithredu gan y Llywodraeth
Bydd gwirfoddolwyr yn cyhoeddi cymhwyster Cymraeg eu hunain heddiw (dydd Iau, 27ain Medi) yn sgil methiant Llywodraeth Cymru i weithredu argymhelliad adroddiad annibynnol i ddisodli Cymraeg Ail Iaith.
Ym mis Medi 2013, cyhoeddodd yr Athro Sioned Davies adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru oedd yn argymell y dylai’r "elfen Cymraeg ail iaith yn y rhaglen astudio Cymraeg yn cael ei disodli ynghyd â’r term Cymraeg ail iaith" a hynny "dros gyfnod o dair i bum mlynedd". Dywedodd yr adroddiad: "Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith... Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.”
Mae'r papur drafft sy’n cael ei gyhoeddi gan Gymdeithas yr Iaith heddiw yn argymell:
- Disodli’r cymwysterau presennol gydag un continwwm wedi ei seilio ar fodel Cymraeg i Oedolion – byddai'n caniatáu i ddisgyblion ddefnyddio cyrsiau dwys Cymraeg i Oedolion er mwyn parhau gyda, neu ategu, eu haddysg ysgol
- Creu cymhwyster ac asesiad cyffredin ar gyfer pob disgybl, sy’n ffocysu’n bennaf ar sgiliau llafaredd
- Asesiadau llafar cyffredin ar gyfer pob disgybl 14 ac 16 oed, gan ymestyn y disgyblion gorau drwy bapurau llenyddol estynedig
[Darllenwch y papur ymgynghorol yma]
Cyn cyhoeddi’r cymhwyster Cymraeg newydd drafft y byddai’n cael ei sefyll gan bob disgybl, meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Rydyn ni wedi gorfod gwneud y gwaith hwn yn wirfoddol oherwydd methiant y Llywodraeth i weithredu adroddiad wnaethon nhw gomisiynu eu hunain. Rydyn ni’n awyddus i dderbyn adborth ar y cynigion sydd wedi eu llunio gan grŵp o arbenigwyr. Mae bellach yn bum mlynedd ers i adroddiad annibynnol yr Athro Sioned Davies ddatgan bod rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys. Roedd hi'n argymell dileu Cymraeg Ail Iaith erbyn 2018 fan bellaf. Ar hyn o bryd, mae'r Llywodraeth yn dal i ohirio'r mater eto ac eto. Dyna pam rydyn ni wedi cyhoeddi cymhwyster enghreifftiol ein hunain.
Yn dilyn ymrwymiadau clir gan y Prif Weinidog a Gweinidogion eraill, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams mewn cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith ddechrau eleni y "bydd yna un cymhwyster Cymraeg" i bob disgybl, a fydd yn disodli'r cymwysterau Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith presennol. Fodd bynnag, does dim bwriad i addysgu'r cymhwyster newydd tan 2025 – sef 12 mlynedd ers adroddiad yr Athro Davies.
Ychwanegodd Mr Schiavone:
"Er ein bod yn croesawu datganiad yr Ysgrifennydd Addysg mewn cyfarfod diweddar y "bydd yna un cymhwyster Cymraeg" i bob disgybl yn lle'r drefn Cymraeg Ail Iaith presennol, mae aros tan 2025 yn gwbl annerbyniol. Mae gennym bryderon mawr hefyd am ymrwymiad y gweision sifil, sydd, er gwaethaf nifer o ymrwymiadau personol gan Weinidogion, yn dal heb ysgrifennu'r ymrwymiad yn yr un ddogfen polisi.
"Er mwyn sicrhau bod disgwyliadau uwch o'n system addysg o ran caffael y Gymraeg, a dealltwriaeth o’r hyn sydd angen digwydd, rydyn ni'n credu'n gryf y dylai'r Llywodraeth gyhoeddi cymhwyster enghreifftiol eleni o'r cymhwyster Cymraeg cyfunol newydd. Byddai hynny'n caniatáu i rai siroedd ac ysgolion sy'n dewis ei dreialu ddechrau addysgu ar gyfer yr un cymhwyster newydd i bawb o fis Medi 2019 ymlaen. Wedi hynny, bydd modd cyflwyno'r cymhwyster i weddill y wlad dros y blynyddoedd dilynol. Bydd y cymhwyster hefyd yn ysgogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau’r gweithlu, sy’n fater y mae’n rhaid i gynghorau roi llawer iawn mwy o sylw iddo."