Mewn cyfarfod heddiw, penderfynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith fod y Llywodraeth wedi methu dangos arweiniad ar 5 allan o 6 o ofynion polisi a osododd y Gymdeithas 6 mis yn ôl. Y chwe pheth yw:
1. Addysg Gymraeg i Bawb - clywodd y cyfarfod na fydd y llywodraeth yn ystyried adolygu cwricwlwm Cymraeg Ail Iaith am flwyddyn.
2. Tegwch Ariannol i'r Gymraeg - mae Llywodraeth Cymru wedi torri gwariant uniongyrchol ar y Gymraeg, a heb gyhoeddi asesiad o effaith eu cyllideb ar y Gymraeg
3. Gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg - nid oes cynllun gweithredu gan y Llywodraeth byddai’n sicrhau bod rhagor o gyrff cyhoeddus yn dilyn esiampl Cyngor Gwynedd
4. Safonau Iaith i Greu Hawliau Clir - barn y cyfarfod oedd bod y safonau iaith a gyhoeddwyd yn aneglur o ran yr hawl i dderbyn gweithgareddau hamdden yn Gymraeg. Mae’n debyg bod y safonau yn rhy wan i sicrhau bod cyrff cyhoeddus fel Cyngor Torfaen yn mynd i’r afael â diffygion yn eu darpariaeth Cymraeg.
5. Trefn Cynllunio er budd ein Cymunedau - mae Bil Cynllunio drafft y Llywodraeth yn dangos nad ydynt yn bwriadu chwyldroi’r system gynllunio fel mae’r Gymdeithas wedi galw amdano. Nid yn unig nad yw’r TAN20 a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn wan, mae’n amherthnasol i’r rhan fwyaf o Gymru.
6. Y Gymraeg yn greiddiol i Ddatblygu Cynaliadwy - barn y cyfarfod oedd bod y Llywodraeth, wrth ganoli grymoedd a gwasanaethau, yn newid neu’n anwybyddu’r cysyniad o Ddatblygu Cynaliadwy yn gyfan gwbl.
Cyhoeddodd cadeirydd y mudiad, Robin Farrar, y bydd y Gymdeithas yn dechrau ar gyfnod o weithredu uniongyrchol i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i’w gweithredu.
Meddai: “Byddwn ni’n dechrau ar y cyfnod cyntaf o weithredu ar y cyntaf o Chwefror, a bydd yn arwain at brotest ar faes Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai.”