Cyllideb S4C i gael ei 'diogelu' gan y Llywodraeth – David Davies AS

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig wedi datgan ei fod yn 'hyderus' y bydd Gweinidogion Llywodraeth Prydain yn cadw at eu gair i 'ddiogelu' eu grant ar gyfer S4C, yn ôl mudiad iaith.   
 
Yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, cyfrannodd Llywodraeth Prydain £6.7 miliwn i S4C mewn grant o'r adran ddiwylliant, gyda gweddill cyllideb y sianel yn dod o'r ffi drwydded. Wrth siarad ag aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dilyn cyfarfod, dywedodd yr Aelod Seneddol dros Fynwy David Davies bod y Ceidwadwyr "fel plaid wedi gwneud ymrwymiad maniffesto clir i ddiogelu'r arian sy'n mynd o'r Llywodraeth i S4C" a'i fod "yn ffyddiog y bydd holl Weinidogion y Llywodraeth ... yn cadw at eu gair o ran y gyllideb.". Ychwanegodd ei fod yn "hyderus" y bydd yn "clywed yn fuan y bydd [£6.7 miliwn] arian y sianel yn ddiogel ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf".    
 
Daw'r sylwadau wrth i wleidyddion ddisgwyl clywed yn fuan am fanylion adolygiad y sianel a gynhelir yn y flwyddyn newydd, a fydd yn debygol o ystyried ymestyn cylch gwaith y sianel i gynnwys platfformau eraill, sefydlu fformiwla ariannu statudol hir dymor a datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu i'r Cynulliad. Yr wythnos ddiwethaf, derbyniodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg lythyr gan Swyddfa Cymru sy'n datgan: "Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidogion Swyddfa Cymru yn dal i drafod â chydweithwyr yn Whitehall i ystyried beth yw'r ffordd orau i'r Llywodraeth gefnogi S4C dros y misoedd nesaf."   
 
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:   
 
"Mae sylwadau David Davies yn galonogol. Ond, 'dyn ni ddim yn deall pam fo'r Llywodraeth dal i drafod ei grant ar gyfer y flwyddyn nesa, cyfnod pan fydd yr adolygiad yn mynd rhagddi. Maen nhw'n creu ansicrwydd diangen. Fydden nhw byth yn meiddio torri eu haddewid maniffesto eto, ac yn sicr, allen nhw ddim rhagfarnu canlyniad yr adolygiad. Yn y pendraw, 'dyn ni'n credu bod rhaid datganoli darlledu i Gymru er mwyn cael system sy'n llesol i'r Gymraeg a holl gymunedau Cymru.    
 
"'Dyn ni'n dal i ddisgwyl clywed gan faint y bydd grant y Llywodraeth i S4C yn cynyddu'r flwyddyn nesaf, a hynny'n fuan gobeithio. Mae'n hunig sianel deledu Gymraeg nid yn unig yn hollbwysig i'n hiaith, ond yn rhan bwysig o'n heconomi hefyd. Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd cyllideb adran ddiwylliant y Llywodraeth yn cynyddu, ac mae ymrwymiad clir ym maniffesto'r Ceidwadwyr i ddiogelu'r grant. Dylai fod cyhoeddiad yn fuan sy'n cadarnhau y bydd S4C, fel un o gonglfeini diwylliannau Cymru, yn elwa o hyn drwy gynnydd yn ei grant."   
 
Yn ogystal, cyfarfu dirprwyaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyda Gweinidog Swyddfa Cymru Guto Bebb AS i drafod darlledu'r wythnos diwethaf.